Rydym yn ystyried newid y tariffau yn ein meysydd parcio canol y dref.
Rydym am weld beth allwn ni ei wneud i annog mwy o bobl i barcio yng nghanol y dref, ac i roi’r cymhelliant iddyn nhw barcio yn y dref yn hwy.
Ym mis Ionawr, gwnaethom ddiweddaru ein peiriannau parcio ceir i ddenu mwy o bobl i’r dref, gan osod peiriannau newydd sy’n derbyn taliad Chip a Pin.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Rydym hefyd wedi cael llawer o adborth gan aelodau o’r cyhoedd a masnachwyr canol y dref ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog mwy o siopwyr i’r dref – gyda llawer yn gofyn ein bod yn cynnig parcio 1-3 awr yn rhai o’n meysydd parcio mwyaf, sef ymestyn yr amser o’r tocyn parcio 1-2 awr presennol.
Caiff cyfres o newidiadau eu cyflwyno gerbron Bwrdd Gweithredol y Cyngor yfory.
Os cymeradwyir gan y Bwrdd Gweithredol, byddai’r symudiad yn cyflwyno ystod newydd o daliadau symlach, gan ddod â’r holl feysydd parcio ar draws canol y dref yn unol â’i gilydd o ran prisiau ac amseroedd.
Mae’r cynnig yn cynnwys:
- cyflwyno tariff parcio 1-3 awr am £1.80 ym mhob maes parcio, rhwng dydd Llun a dydd Sul.
- gostyngiad mewn ffioedd drwy’r dydd yn y Byd Dŵr ac Adeiladau’r Goron rhwng dydd Llun a dydd Gwener, sef £3 yn lle’r pris cyfredo o £4, a gostyngiad cyfwerth i’r trwyddedau parcio chwe mis ar gyfer y Byd Dŵr ac Adeiladau’r Goron, sef £300 yn lle £350.
- cynnydd mewn ffioedd drwy’r dydd yn Ffordd Cilgant i £2, a chynnydd cyfwerth o £168 i £200 am drwydded parcio chwe mis.
- cynyddu’r ffi parcio am awr i £1, a chynyddu’r ffi parcio drwy’r dydd yn Tŷ Pawb i £2.50.
- tynnu’r hawl i barcio am ddim ar ôl 3 yn Tŷ Pawb ac ymestyn y ffioedd parcio safonol nes amser cau, sef 7pm
- cyflwyno ffi o £1 ar gyfer parcio rhwng 6pm a hanner nos yn Ffordd Cilgant.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Os cânt eu cymeradwyo, byddai’r tariffau newydd hyn yn dod â’n holl feysydd parcio yng nghanol y dref yn unol â’i gilydd, a byddai trefniadau’n fwy teg ar draws yr holl feysydd parcio.
“Byddai hefyd yn sicrhau bod gennym strwythur prisio parcio ar waith sy’n adlewyrchu gofynion parcio yng nghanol y dref, a bydd yn diwallu anghenion trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol.
“Bydd y ffi newydd 1-3 awr am £1.80 yn caniatáu i siopwyr dreulio mwy o amser yn y dref, a’r gostyngiad ym mhris parcio drwy’r dydd yn y Byd Dŵr, ein maes parcio mwyaf, yn galluogi iddyn nhw aros yn hwy.”
A pheidiwch ag anghofio – bydd parcio am ddim yn yr holl feysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor yng nghanol y dref yn ystod mis Rhagfyr, felly gwnewch eich siopa ‘Dolig yn Wrecsam!
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI