Mae perchnogion a lesddeiliaid eiddo manwerthu a masnachol yn cael eu gwahodd i wneud cais am grantiau a benthyciadau sydd wedi’u cynllunio i helpu i ail-fywiogi canol dinas Wrecsam.
Bydd Cyngor Wrecsam yn defnyddio £200,000 o arian Trawsnewid Trefi i gynnig grantiau o hyd at £50,000 yn ogystal â chynnig benthyciadau masnachol canol y ddinas gwerth rhwng £5,000 a £1,000,000 sy’n ad-daladwy am uchafswm o 5 mlynedd. Yn amodol ar gymhwysedd, gellir defnyddio’r cynlluniau i wella blaenau adeiladau a dod â gofod llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd. Gellir defnyddio’r cynllun benthyciadau hefyd i gynorthwyo’r broses o brynu adeiladau yng nghanol y ddinas.
Mae Trawsnewid Trefi yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i chynllunio i helpu i adfywio canol trefi, gan sicrhau eu bod yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn economïau a chymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi: “Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Wrecsam, a bydd y grantiau a’r benthyciadau hyn yn helpu i adfywio a gwella eiddo yng nghanol y ddinas.
“Byddwn yn annog perchnogion a lesddeiliaid cymwys i wneud cais am yr arian hwn, a helpu i roi bywyd newydd i’w safle.
“Wrecsam yw dinas fwyaf newydd Cymru, ac mae’n bwysig bod canol y ddinas yn fywiog a chyffrous.”
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
Mae grantiau ar gael i berchnogion a lesddeiliaid eiddo manwerthu a masnachol yng nghanol y ddinas. Rhaid i’r holl waith grant fod wedi’i gwblhau erbyn 28 Chwefror 2026.
Mae benthyciadau ar gael i berchnogion a lesddeiliaid eiddo manwerthu a masnachol yng nghanol y ddinas neu’r rheini sy’n bwriadu prynu yng nghanol y ddinas.
Ar beth gellir gwario’r arian?
Gellir defnyddio’r arian hwn i helpu i ariannu gwaith adeiladu allanol a mewnol gan gynnwys
Blaenau siopau, gwaith ar doeon ac adeiledd ac ail-bwrpasu cynlluniau mewnol adeiladau.
Gellir defnyddio arian y benthyciadau i gynorthwyo’r gwaith o greu unedau ar gyfer llety preswyl yn amodol ar gael cymeradwyaeth gynllunio.
Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd gwaith, gan gynnwys sut i wneud cais am Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi, e-bostiwch Grants@wrexham.gov.uk.
Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd gwaith ar gyfer benthyciadau canol y ddinas Trawsnewid Trefi, gan gynnwys sut i wneud cais, e-bostiwch loans@wrexham.gov.uk.
Canmolodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, lwyddiant y rhaglen Trawsnewid Trefi yn ei haraith i Gynhadledd Adfywio Cymru Gyfan ym mis Chwefror, gan ddweud: “Drwy fuddsoddi yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd, rydyn ni nid yn unig yn gwella’r amgylchedd ffisegol ond hefyd yn meithrin twf economaidd a gwella ansawdd bywyd trigolion.
“Mae rhoi pwrpas newydd i eiddo gwag, gan roi bywyd newydd i ganol ein trefi a dinasoedd, yn ganolog i’n strategaeth adfywio yma yng Nghymru.
“Mae parhau â’r rhaglen grantiau, gyda rhagor o gyllid a grantiau uwch, yn gwneud cyllid ar gyfer prosiectau adfywio yn fwy hygyrch, gan ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau rydyn ni eisoes wedi’u sicrhau.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.