Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tŷ Pawb yn disgleirio’n fwy llachar ar ôl gosod paneli solar newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Tŷ Pawb yn disgleirio’n fwy llachar ar ôl gosod paneli solar newydd
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Tŷ Pawb yn disgleirio’n fwy llachar ar ôl gosod paneli solar newydd

Diweddarwyd diwethaf: Mai 15, 2025 10:22 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Solar panels on the roof of Ty Pawb
RHANNU

Mae gofod celfyddydol a marchnad fywiog yn Wrecsam wedi cymryd cam arall tuag at gynaliadwyedd trwy osod paneli solar.

Bydd system ffotofoltäig newydd Tŷ Pawb yn helpu i leihau allyriadau carbon a chynhyrchu ynni glân yng nghanol y ddinas.

Mae’r gwaith wedi cael ei ariannu gan incwm o osodiadau solar eraill sy’n eiddo i’r Cyngor – a gynhyrchir trwy werthu ynni dros ben yn ôl i’r grid.

Mae system Tŷ Pawb yn cynnwys 63 o baneli solar gydag allbwn brig o 27kWp, sy’n gallu cynhyrchu bron i 25,000 kWh o drydan adnewyddadwy bob blwyddyn.

I roi hyn mewn persbectif, mae 25,000 kWh o ynni yn ddigon i:

  • Bweru tegell 1.5L i ferwi tua 250,000 o weithiau.
  • Darparu 2.5 miliwn o oriau o olau LED – sy’n cyfateb i gadw 285 o fylbiau golau LED (10W) yn rhedeg 24/7 am flwyddyn gyfan.

Mae hyn yn golygu y bydd cyfran sylweddol o anghenion ynni Tŷ Pawb bellach yn cael eu diwallu gan ynni solar ar y safle – gan leihau dibyniaeth ar y grid cenedlaethol a lleihau allyriadau carbon oddeutu 5,729kg y flwyddyn.

Wedi’i osod gan Rawson EV, cwblhawyd y prosiect mewn llai na dau ddiwrnod heb darfu o gwbl ar weithgareddau dyddiol yn y lleoliad prysur.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb am Tŷ Pawb: “Trwy gofleidio ynni adnewyddadwy, rydym nid yn unig yn lleihau costau gweithredol yr adeilad – rydym hefyd yn helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy i Wrecsam.

“Rydym am i Tŷ Pawb fod yn hwb datgarboneiddio yng nghanol y ddinas a fydd yn ysbrydoli eraill, ac mae’r paneli solar yn gam pwysig tuag at hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am ddatgarboneiddio: “Mae ymrwymiad Tŷ Pawb i gynaliadwyedd yn wych, ac mae’n cefnogi nodau amgylcheddol ehangach y Cyngor.

“Rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae’r paneli solar hyn yn gam cadarnhaol arall tuag at leihau ôl troed carbon y ddinas.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynlluniau grant a benthyciadau ar gyfer siopau ac eiddo masnachol yng nghanol dinas Wrecsam Cynlluniau grant a benthyciadau ar gyfer siopau ac eiddo masnachol yng nghanol dinas Wrecsam
Erthygl nesaf Wrexham County Borough Council Gallai rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson, dderbyn Rhyddid y Fwrdeistref Sirol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English