Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynlluniau’n datblygu’n dda ar gyfer gwasanaeth trên newydd rhwng Wrecsam a Llundain
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cynlluniau’n datblygu’n dda ar gyfer gwasanaeth trên newydd rhwng Wrecsam a Llundain
Arall

Cynlluniau’n datblygu’n dda ar gyfer gwasanaeth trên newydd rhwng Wrecsam a Llundain

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 11, 2025 9:56 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Rail track
RHANNU

Mae galwadau am wasanaeth trên gwell rhwng Wrecsam a Llundain Euston wedi cael hwb y mis hwn.

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cadarnhau ei bod yn parhau i ‘gefnogi mewn egwyddor’ gais gan Wrexham, Shropshire & Midlands Railway (WSMR) i gyflwyno gwasanaeth newydd rhwng Wrecsam a phrifddinas y DU.

Byddai’r gwasanaeth yn un ‘mynediad agored’, sy’n golygu y byddai’n gweithredu ar sail fasnachol heb gymhorthdal llywodraeth, a byddai’n cynnwys arosfannau yng Ngobowen, Amwythig, Telford, Wolverhampton, Darlaston, Walsall, Parcffordd Coleshill, Nuneaton a Milton Keynes.

Yn ei hasesiad diweddaraf o’r cynigion, dywed yr Adran Drafnidiaeth ei bod yn cydnabod y manteision y gallai’r gwasanaeth newydd eu darparu i gymunedau yng ngogledd Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.

Er, mae hefyd yn awgrymu bod angen gwneud mwy o waith i bwyso’r heriau gweithredol, gan gynnwys sut y byddai’r gwasanaeth newydd yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau trên presennol i Euston.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am drafnidiaeth strategol: “Mae ’na ffordd bell i fynd o hyd, ond mae pethau’n bendant yn symud i’r cyfeiriad cywir.

“Gwnaeth Sam Rowlands AS a minnau gyfarfod â WSMR yn ddiweddar, ac rydyn ni’n falch iawn o sut mae’r cais yn datblygu.

“Byddai cyflwyno gwasanaeth masnachol – yn rhedeg hyd at bum trên y dydd o Wrecsam i Lundain – yn dod â manteision enfawr i ogledd Cymru.”

Dywedodd Sam Rowlands AS (Rhanbarth Gogledd Cymru): “Rwy’n falch iawn o gefnogi cais Wrexham, Shropshire & Midlands Railway i gyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Wrecsam a Llundain, ac mae’n wych gweld bod yr Adran Drafnidiaeth yn cefnogi’r cais mewn egwyddor.

“Wrecsam yw cytref fwyaf gogledd Cymru, a byddai gwella gwasanaethau rheilffordd i Swydd Amwythig, Canolbarth Lloegr a Llundain yn hwb i’n heconomi leol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Waterworld 
Dydd Mercher / Wednesday 12:00-13:00
Dydd Sadwrn / Saturday 15:00-16:00 
Dydd Gwener / Friday 13:00-14:00 (Nofio i'r Teulu/Family Swim) 
Gwyn Evans
Dydd Mawrth / Tuesday 14:00-15:00
Dydd Sul / Sunday 13:00-14:00
Dydd Iau / Thursday 14:00-15:00 (Nofio i'r Teulu/Family Swim) 
Chirk
Dydd Sul / Sunday 13:00-14:00
Dydd Llun / Monday 11:00-12:00 (Offer Gwynt/Inflatable)
Dydd Gwener / Friday 13:00-14:00 (Nofio i'r Teulu, Fflotiau a Rafftiau/Family Swim, Floats and Rafts) Nofio am ddim – Hanner Tymor
Erthygl nesaf Gweithiwch i ni ym maes Gofal Cymdeithasol Gweithiwch i ni ym maes Gofal Cymdeithasol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English