Erthygl Gwadd gan Chwarae Teg.
Mae merched ifanc ar draws gogledd Cymru yn cael eu gwahodd i ymgeisio am gyfle i ddarganfod sut beth ydi gweithio fel Arweinydd Cyngor lleol, gyda chyfle unigryw i’w cysgogi am ddiwrnod.
Mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymuno â Chwarae Teg i gymryd rhan yn eu prosiect #LeadHerShip, a’r nod ydi sicrhau fod merched yn cael eu cynrychioli’n well mewn bywyd cyhoeddus a swyddi lle mae angen gwneud penderfyniadau.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Caiff #LeadHerShip ei redeg gan yr elusen cydraddoldeb rhywiol, ac mae ar agor i ferched 18 – 25 oed sy’n teimlo’n angerddol am wleidyddiaeth ac sydd awydd dysgu sut y deuir i benderfyniadau ynglŷn â chymunedau lleol. Gellir ymgeisio ar-lein tan ddiwedd mis Medi.
Bydd diwrnod #LeadHerShip ei hun yn cynnwys amser gyda’r Cynghorydd Pritchard a’i staff, er mwyn helpu’r cyfranogwyr i ddysgu mwy am waith Arweinydd y Cyngor o ddydd i ddydd a sut mae llywodraeth leol yn gwneud penderfyniadau ar ran pobl yng Nghymru.
Dywedodd Emma Tamplin o Chwarae Teg:
“Nid yw merched i’w gweld mewn swyddi lle mae angen gwneud penderfyniadau yng Nghymru, yn enwedig ar lefel leol. Ar hyn o bryd, dim ond 18% o Arweinwyr Cyngor sydd yn ferched, a dim ond 28% ohonynt sydd yn gynghorwyr lleol yng Nghymru. Mae gwella ymgysylltiad merched ifanc â gwleidyddiaeth ar lefel leol yn hanfodol er mwyn cynyddu cynrychiolaeth yn y dyfodol.
“Nod #LeadHerShip ydi rhoi cip go iawn i ferched ar y cyfleoedd gwleidyddol sydd ar gael iddynt ac ysbrydoli cenhedlaeth o arweinwyr benywaidd. Byddwn ond yn gallu mynd i’r afael o ddifrif â’r holl faterion sy’n ein hwynebu fel cymdeithas, pan fydd gennym gynrychiolwyr amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau lle’r ydym ni’n byw.
“Ni ddylai rhyw fod yn rhwystr i ddyheadau. Mae mor bwysig bod merched a menywod ifanc yn tyfu i fyny gan wybod y byddant yn cael eu hannog i wireddu eu nodau, ac fel penderfynwyr, y byddant yn cael eu parchu”.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cyng. Mark Pritchard:
“Dwi’n croesawu’r cyfle i’r awdurdod a minnau groesawu cyfranogwyr #LeadHerShip. Dwi’n gobeithio y bydd yn chwarae rhan i roi cyfle i fwy o ferched yng Nghymru weld sut beth yw gweithio mewn gwleidyddiaeth, a dangos iddynt fod ganddynt y potensial i fod yn arweinwyr a gobeithio rhoi’r hyder iddynt ystyried gyrfa wleidyddol. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn annog ein cenedlaethau iau i anelu’n uwch a theimlo fod ganddynt y potensial i wneud newidiadau.
“Mae Cynghorau’n gyfrifol am addysg, gwasanaethau gofal, cyfleusterau hamdden, cymryd gofal o’n strydoedd a’n hamgylchedd, a thai yn lleol a datblygu busnes yn rhanbarthol. Mae penderfyniadau yn y meysydd yma’n effeithio ar fywydau merched yng Nghymru o ddydd i ddydd, felly mae’n hanfodol fod ganddynt blatfform i leisio eu barn a chwarae eu rhan wrth lunio’r dyfodol”.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio ewch i: https://chwaraeteg.com/prosiectau/leadhership/#leadhership-cyngor-lleol
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Airey: bethan.airey@chwaraeteg.com neu 07776 656398.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN