Mae busnesau traddodiadol canol y dref a fu’n gwasanaethu cymunedau ers canrifoedd, megis siop y pobydd, y cigydd, y gwerthwr pysgod a’r gwerthwr llysiau, yn cael amser caled ar strydoedd mawr Prydain y dyddiau yma, gyda nifer ohonyn nhw’n methu â chystadlu â chwmnïau archfarchnadoedd mawrion.

Ond yn Wrecsam, mae siop gigydd draddodiadol yng nghanol y dref yn herio’r duedd ac yn parhau i wasanaethu’r un gymuned ag y mae wedi’i gwasanaethu ers pedair cenhedlaeth.

Mae gan siop gigydd Hugh John Jones ar Stryt Henblas gysylltiadau hirfaith â phobl Wrecsam – yn llawer hwy na’r cadwyni selsig y tu ôl i’r cownter!

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Giles Jones a Russell Jones (dim perthynas i’w gilydd) sy’n rhedeg siop y cigydd, gyda chefnogaeth dau aelod arall o staff.

Mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth o gig porc, cig eidion, cig oen a dofednod – yn ogystal â helgig adeg y Nadolig – ac mae mwyafrif y cigoedd yn dod o ffynonellau o fewn 30 milltir i Wrecsam, ac eithrio cig oen y glastraeth o Ynys Môn.

Sefydlwyd y busnes gan hen daid Giles, sef Hugh John Jones, ym 1886, ac mae wedi bod yn y dref ers hynny. Ym Marchnad y Cigydd y safai’r siop yn wreiddiol, cyn symud i Stryt Henblas yn 2010.

Bu tad Giles, a enwyd hefyd yn Hugh John Jones, yn rhedeg y siop am dros 50 mlynedd, ac roedd hefyd yn wyneb adnabyddus i ddilynwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam fel “John the Bell”, yn ôl y sôn, oherwydd ei arfer o ganu cloch law swnllyd i ysgogi’r cefnogwyr yn ystod hanner amser mewn gemau cartref ac oddi cartref.

Dywedodd Giles bod cysylltiadau maith y busnes â phobl Wrecsam wedi arwain at ennill cwsmeriaid ffyddlon – y mae rhai ohonyn nhw’n dilyn ôl traed cenedlaethau cynharach eu teuluoedd.

“Mae pobl wedi bod yn dod yma ers cenedlaethau”

Meddai:  “Rydyn ni’n nabod pawb – ac mae pawb yn ein nabod ninnau.

“Mae gennym ni bobl sydd wedi bod yn dod yma ers cenedlaethau – mae gennym ni gwsmeriaid o’r drydedd genhedlaeth.  Rydw i o’r bedwaredd genhedlaeth ac mae fy nau fab wedi bod yn fy helpu.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n 131 mlwydd oed – ond dydyn ni ddim yn edrych mor hen â hynny!”

Mae’r busnes wedi dirywio rhywfaint yn y blynyddoedd diweddar wrth i Ganol Tref Wrecsam newid – ond mae Giles yn dal i fod yn dawel hyderus ynglŷn â dyfodol y dref a’r busnes.

Meddai Giles: “Mae pethau’n well yng nghanol y dref ar hyn o bryd nag y buon nhw, ond mae angen i rywbeth ddigwydd.”

Ychwanegodd bod y busnes wedi gallu manteisio ar Wyliau Stryd rheolaidd bob mis, trwy gynnal barbeciw awyr agored yn gwerthu rholiau a brechdanau cig rhost.

“Mae pethau wedi gwella yn yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rydyn ni’n gweithio’n galed i wella ymhellach.

“Mae BHS wedi cael ei brynu ac unwaith y bydd y gwaith ar Farchnad y Bobl wedi’i gwblhau, fe fydd pethau’n edrych yn well.

“Un peth fyddai o fudd mawr i ni fyddai parcio am ddim am hanner awr ar Stryt Caer a’r Stryd Fawr, er mwyn i bobl allu gyrru cyn agosed i’r siopau ag sy’n bosib”.

Aeth yn ei flaen i ddweud bod y siop gigydd yn parhau i fod yn optimistaidd er gwaethaf y duedd ar i lawr yn ffyniant canol y dref yn y blynyddoedd diwethaf.

“Rydyn ni’n dal ati ac yn gwneud ein gorau glas i fod yn ffyddiog.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio Cyngor Wrecsam: “Mae’n glod i fusnesau traddodiadol fel Siop Gigydd Hugh John Jones eu bod wedi gallu dal ati wrth i’r stryd fawr ac arferion cwsmeriaid newid.

“Mae wedi bod yn amser caled ar y stryd fawr yn ddiweddar – rydyn ni wedi gweld hynny yn Wrecsam fel ym mhob man arall yn y DU. Ac mae wedi bod yn arbennig o galed ar fusnesau traddodiadol sy’n delio mewn cynnyrch, gan fod cwsmeriaid wedi troi at archfarchnadoedd mawrion.

“Ond mae Giles a’r tîm yn Siop Gigydd Hugh John Jones wedi llwyddo i ddod drwyddi a pharhau i wasanaethu pobl Wrecsam, yr un fath ag y gwnaeth eu cyndadau am 131 o flynyddoedd.

“Dymuniadau gorau iddyn nhw am y 131 blynedd nesaf!”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI