Mae newyddion trist heddiw gan fod cwmni bws lleol D Jones & Sons wedi cyhoeddi y byddant yn rhoi’r gorau i fasnachu o heddiw ymlaen.
Mewn datganiad diweddar, dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol ar gyfer Cludiant y Cyngor: “Yn y 24 awr ddiwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael hysbysiad bod y gweithredwr bysiau lleol, D Jones & Son o Acrefair, Wrecsam yn rhoi’r gorau i fasnachu o ddydd Sul 17 Rhagfyr 2017 ymlaen.
“Mae’r newydd hwn wedi cyrraedd heb rybudd ymlaen llaw, a blaenoriaeth uniongyrchol y Cyngor yw sicrhau bod cludiant addysg statudol dan gontract yn cael ei ddarparu. Er yr hysbysiad hwyr, mae’r Cyngor wedi gallu sicrhau trefniadau cludo ar gyfer myfyrwyr â hawl ar gyfer yr wythnos nesaf.
“Mae amhariad i wasanaethau bysiau lleol a weithredwyd yn ffurfiol gan D Jones & Son yn annatod. Mae’r Cyngor wedi cyflawni ei gynllun wrth gefn gyda’r bwriad o sicrhau bod gymaint o wasanaethau bysiau yn eu lle cyn gynted â phosib. Maent wedi bod yn gweithio dros y penwythnos ac yn parhau i weithio’n galed i sicrhau gweithredwyr newydd ar gyfer y rheiny a gollwyd oherwydd D Jones & Sons yn rhoi’r gorau.
Mae rhestr o gytundebau ysgol a ddarparwyd yn flaenorol gan D Jones & Sons wedi’u rhestru isod ynghyd â’r gweithredwr newydd.
Ysgol Morgan Llwyd
563W ardal Gwersyllt – DIWEDDARWYD 17.12.17 BYDD Y GWASANAETH HWN YN CAEL EI GYFLENWI GAN STRAFFORDS COACHES AC NID PATS COACHES
St Josephs/ St Marys
567F ardal Brymbo – UNICORN TRAVEL
567H ardal Gresffordd – E JONES & SON Diweddarwyd 16.56 dydd Sadwrn 16 Rhagfyr
567Q ardal Coedpoeth G EDWARDS and SON
Ysgol Garth CP
195B ardal Trefor – E JONES and SON
Bro Alun, Plas Coch, Bodhyfryd
440X ardal Llai / Marford PATS COACHES
440Y ardal Tanyfron PATS COACHES
Mae rhestr o’r gwasanaethau bysiau lleol a ddarparwyd yn flaenorol gan D Jones & Son wedi’u rhestru isod.
Gwasanaeth 5, Wrecsam – Llangollen
Gwasanaeth 6, Wrecsam – Rhiwabon (Pont Adam)
Gwasanaeth 9, Wrecsam – Minera
Gwasanaeth 10, Wrecsam – Gwynfryn/Bwlchgwyn
Gwasanaeth 13B, Wrecsam – Stâd Ddiwydiannol Wrecsam Gwasanaeth 35, Wrecsam – Plas Goulbourne
Gwasanaeth 41/42, Wrecsam – Stâd Ddiwydiannol Wrecsam
Gwasanaeth 41B/42B, Wrecsam – Stâd Ddiwydiannol Wrecsam
Gwasanaeth 44, Wrecsam – Barkers Lane
Service J50, Wrecsam – Acrefair
Service C56, Wrecsam – Caer.
Gwasanaeth 146, Wrecsam – Whitchurch.
Gall gwahanol deithiau ar draws Wrecsam gael eu heffeithio gan gynnwys teithiau stad ddiwydiannol a’r carchar.
Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted â phosibl.