Mae disgyblion saith ysgol yn Wrecsam wedi cael diweddglo cofiadwy i brosiect gwych a ariannwyd gan Bartneriaeth Bwyd Wrecsam ac a gydlynwyd gan Dîm Ysgolion Iach Wrecsam.
Fel rhan o’r prosiect Da i Dyfu, ymwelodd pob ysgol â Fferm Agri-cation lle derbynion nhw blanhigion yn ogystal â chyngor a chymorth gan Gardd Furiog Fictoraidd Erlas. Fe gymeron nhw ran hefyd mewn sesiynau Bwyta’n Gall, Arbed Mwy gyda’r tîm deietig lleol a rhoddwyd adnoddau coginio a garddio iddyn nhw, a gefnogwyd ymhellach gan dîm lleihau carbon y cyngor.
Daeth y prosiect i ben gyda sesiwn gyda staff o Fwyty Iâl yng Ngholeg Cambria a ymwelodd â phob ysgol i baratoi a choginio prydau pasta gyda rhai o’r cynnyrch a dyfwyd yn yr ysgol gan adael bag rhoddion iddyn nhw, gan gynnwys pecyn o basta macaroni, i feithrin arferion bwyta’n iach gartref.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac roedd yn dysgu llawer o sgiliau bywyd pwysig fel garddio a choginio, yn ogystal â mynd i’r awyr agored a bod yn actif.
“Lluniwyd y fenter ar ôl i ddata diweddar ddangos bod llai na hanner y plant cynradd yn Wrecsam yn bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae’r rhaglen Da i Dyfu yn cyflwyno disgyblion i arferion bwyd cynaliadwy trwy eu cynnwys yn y daith fwyd lawn, o dyfu i goginio a bwyta, gan gynnig profiad cynhwysfawr ‘o’r fferm i’r fforc’.
I lansio’r prosiect, derbyniodd ysgolion offer garddio a chegin, gan gynnwys gwelyau uchel, offer addas i’w defnyddio gan blant, a nwyddau coginio. Fe wnaeth tîm lleihau carbon y cyngor ddarparu rhagor o ddeunyddiau garddio heb unrhyw gost ychwanegol. Bu Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yn mentora ysgolion yn ystod pob tymor, yn rhoi cyngor i staff a myfyrwyr ar dechnegau tyfu a chyflenwi hadau a phlanhigion i sicrhau cynaeafau llwyddiannus.
Ymwelodd myfyrwyr hefyd â fferm leol, Agri-cation, lle cawson nhw brofiad uniongyrchol o ffermio, gofal anifeiliaid a chynaliadwyedd ecolegol. Roedd yr ymweliad hwn yn atgyfnerthu pynciau cwricwlwm fel bioleg, addysg bwyd, ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.
I gefnogi teuluoedd ymhellach, cynhaliodd tîm deietig Wrecsam sesiynau ‘Bwyta’n Gall, Arbed Arian’, gan gynnig awgrymiadau am fwyta’n iach a chyllidebu. Derbyniodd pawb a gymerodd ran lyfr ryseitiau i annog parhau ag arferion bwyta’n iach gartref. Cyfrannodd Coleg Cambria hefyd drwy gynnal gweithdai gwneud pasta gan ddefnyddio cynnyrch wedi’i dyfu gan y myfyrwyr eu hunain a helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau coginio ac ymfalchïo mewn rhannu bwyd gartref.
Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol. Mae ysgolion wedi defnyddio eu gerddi i gynnal sesiynau coginio a blasu, gyda chynnyrch dros ben yn cael ei rannu â theuluoedd lleol, ac mae integreiddio dysgu ar sail gardd i’r cwricwlwm wedi agor cyfleoedd trawsgwricwlaidd mewn bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, technoleg bwyd a maeth.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.