Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod wedi mynd trwy i’r rhestr fer i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025!
Mae’r DCMS (adran y DU dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) sy’n rhedeg y gystadleuaeth wedi cyhoeddi fod Wrecsam wedi llwyddo cyrraedd y rhestr fer gyda Bradford ,Sir Durham ac Southampton.
Dywedodd Gweinidog y Celfyddydau, yr Arglwydd Parkinson o Fae Whitley: “Rwy’n falch iawn bod Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2025. Mae hon wedi bod yn gystadleuaeth anodd gyda’r 20 cais cychwynnol y mwyaf erioed ac wyth ymgeisydd rhestr hir eithriadol o dda, felly mae’r wobr hon yn deyrnged wirioneddol i ansawdd y creadigrwydd sy’n cael ei arddangos yn y rhanbarth. Edrychaf ymlaen at weld beth sydd gan gais Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei le nesaf!”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:“Rwy’n falch iawn i weld Wrecsam ar y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2025. Mae’r cais wedi gwneud gwaith gwych wrth chwifio’r faner dros Gymru a chyrraedd y pedwar olaf yn erbyn cystadleuaeth o safon uchel.
“Mae gan Wrecsam lawer i ymfalchïo ynddo eisoes – un o glybiau pêl-droed hynaf y byd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, y Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chanolfan diwylliant a chelfyddydau arobryn yn Nhŷ Pawb. Os bydd y sir yn llwyddiannus bydd teitl Dinas Diwylliant y DU yn dod â chyfleoedd enfawr a dymunaf bob llwyddiant iddynt.”
Dywedodd Joanna Swash, Prif Weithredwr Moneypenny a Chadeirydd Grŵp Llywio cais #Wrecsam2025: “Mae hwn yn newyddion gwych i Wrecsam. “Da ni wedi gweld cymaint o fusnesau a sefydliadau cymunedol lleol a chenedlaethol yn dangos eu cefnogaeth am ein cais. “Yn Moneypenny rydym yn hynod o falch o’n gwreiddiau dwfn ac y mae yna botensial enfawr ac archwaeth i weld Wrecsam yn dod yn Ddinas Diwylliant y 2025.”
Dywedodd Amanda Davies sy’n arwain cais Dinas Diwylliant i Wrecsam: “Mae ein Tîm Dinas Diwylliant wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn y cefndir i ddod a ni at y sefyllfa bresennol, ond ymglymiad ac ymrwymiad cymuned Wrecsam a fu’n dod a ni dros y llinell ac ennill y gystadleuaeth. “Tros y misoedd nesaf mae gennyn ni nifer mawr o ddigwyddiadau cymunedol sy’n hybu’n cais felly cadwech olwg er y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion, a chysylltwch â ni os hoffech mwy o wybodaeth am gefnogi’n cais.
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’n codi calon i weld sut y mae’r gymuned wedi dod at ei gilydd i gefnogi’r cais. “Bydd dod yn Ddinas Diwylliant yn 2025 yn rhoi i ni’r cyfle i ddatblygu a gwella Wrecsam mewn beth sydd gennym i gynnig i’n preswylwyr, a’n ymwelwyr.
Beth sy’n digwydd nesa?
Fel rhan o’r cais rydym wedi rhoi grantiau i dros 50 o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae rhai wedi digwydd yn barod ond mae eraill yn rhedeg nes diwedd mis Mai. Felly wnewch yn siŵr i gadw golwg ar y cyfryngau cymdeithasol ac #nod #Wrecsam2025 am fwy o fanylion.
Rhywbryd yn nechrau Mis Mai bydd panel o feirniaid i’r cais Dinas Diwylliant yn ymweld â Wrecsam i gymharu ni gyda’r rhanbarthau arall ar y rhestr fer.
Bydden ni’n dal i guro’r drwm i Wrecsam a chario ‘mlaen gyda’r momentwm. Daliwch i siarad gyda’ch ffrindiau, eich cydweithwyr ach teulu am y cais!
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi rhyw bryd diwedd Mis Mai.