Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sticeri Atal Troseddu wedi’u darparu yn Erddig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sticeri Atal Troseddu wedi’u darparu yn Erddig
Y cyngor

Sticeri Atal Troseddu wedi’u darparu yn Erddig

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 18, 2022 4:21 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Erddig
RHANNU

Fe wnaeth Swyddogion Safonau Masnach o’n hadran Gwarchod y Cyhoedd, ar y cyd â Swyddogion Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru, ddarparu sticeri atal troseddu yn ardal Erddig.

Cawsant eu darparu fel rhan o waith atal masnachwyr twyllodrus/troseddol rydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd. Fe wnaeth swyddogion hefyd siarad â nifer o drigolion gan gynnig cyngor diogelu, a siarad â phobl masnach oedd yn gweithio yn yr ardal i’w hysbysu o’u rhwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfraith diogelu’r cwsmer.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Yn y misoedd diwethaf, mae’r Heddlu a Safonau Masnach wedi bod yn ymwybodol o gynnydd mewn gweithgarwch ar ystadau Coed y Glyn ac Ithens. Mae cartrefi wedi derbyn galwadau diwahoddiad gan bobl masnach diegwyddor sy’n chwilio i gyflawni gwaith ar doeau, dreif a gerddi.

Mae trigolion lleol wedi cael eu hanfon i’r banc er mwyn tynnu symiau mawr o arian, gan fod y masnachwyr hyn yn tueddu i ofyn am daliadau arian parod ac nid oes manylion busnes llawr ar gael.  Yna, nid oes gan aelwydydd brawf os oes unrhyw beth yn mynd o’i le, sydd fel arfer yn digwydd.

Mae pob cartref wedi derbyn sticer DIM GALWADAU DIWAHODDIAD i roi ar y drws, ac anogwn holl gartrefi i’w defnyddio.  Mae’n drosedd i anwybyddu’r cais i adael.

Yn y frwydr yn erbyn masnachwyr twyllodrus/troseddol, y ffordd orau i unrhyw un ddiogelu eu hunain, yw peidio ag ymgysylltu wrth y drws, peidio â derbyn gwaith gan fusnesau sy’n cnocio ar ddrysau neu sy’n gyrru heibio, ac i daflu holl bamffledi busnes a dderbynnir i’r bin.

Mae gan Wrecsam gyfoeth o fusnesau lleol sydd ag enw da. Defnyddiwch fusnesau lleol, a gofynnwch am argymhellion, a sicrhewch fod gennych fanylion llawn yr unigolyn rydych yn delio â nhw. Peidiwch â thalu gydag arian parod ymlaen llaw. Peidiwch â chael eich perswadio i fynd i’r banc na thwll yn y wal. Ni fydd masnachwyr gydag enw da yn gofyn i chi wneud hyn.

Derbyniom ganmoliaeth gan y trigolion ar ôl ymweld â’r ardal. Roedd y rhai cawsom sgwrs â nhw yn ddiolchgar fod swyddogion safonau masnach a’r Heddlu yn cefnogi’r fenter i ddiogelu pobl yn eu cartrefi.

Os ydych chi’n poeni eich bod wedi cael eich twyllo gan Fasnachwr Twyllodrus/Troseddol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 i gael cyngor neu i adrodd am ddigwyddiad.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Unwaith eto, rydym yn ymateb i weithredoedd galwyr digroeso diegwyddor, ac anogwn i unrhyw un sy’n dod i gyswllt â nhw i ddweud na. Hefyd, peidiwch â chymryd sylw o bamffledi, os ydych angen cyflawni gwaith yn y tŷ, gwnewch eich ymchwil, gofynnwch i deulu a ffrindiau am argymhellion a sicrhewch eich bod yn cael nifer o ddyfynbrisiau.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Carnival of Words Carnifal Geiriau Wrecsam 2022 – Gŵyl Lenyddol Ei Hun yn Wrecsam
Erthygl nesaf da ni ar y rhestr fer! #Wrecsam2025 da ni ar y rhestr fer! #Wrecsam2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English