“Da ni’n sicr yn nabod sut i roi parti ‘mlaen yn Wrecsam!”

 

Gair gan Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, “Am noson i Wrecsam. Pan ‘da chi’n meddwl na all y freuddwyd bêl-droed ffantasi wella, mae’n debyg y byddwn yn taflu parti dathlu mwyaf yn hanes Wrecsam gyda’r rhagfynegiadau o hyd at 40,000 yn mynychu i godi calonnau  bencampwyr o dîm y dynion a thîm merched Clwb Pêl-droed Wrecsam.

“Hoffwn roi diolch arbennig i dîm digwyddiadau cyngor Wrecsam sydd wedi gweithio’n ddiflino ers buddugoliaeth Boreham Wood gyda’r clwb a’r heddlu i roi hyn at ei gilydd mewn cyn lleied o amser. Hoffwn ddiolch hefyd i dîm strydoedd cyngor Wrecsam am glirio ar ôl y dathlu mawr ac i’r heddlu a stiwardiaid am gadw pawb yn ddiogel.

“Mae effaith economaidd neithiwr i Wrecsam yn anfesuradwy. Wrth siarad â’r sector lletygarwch dwi’n nabod fod ein bwytai yn llawn, a bod diodydd dathlu yn llifo drwy’r nos o’r tafarndai.

“Disgynnai’r wasg fyd-eang ar Wrecsam gyda phob un o brif orsafoedd y DU yn bresennol a llawer o wasg gan ein ffrindiau dros  y môr , yn arbennig roedd diddordeb o UDA a Chanada. Rhagwelir fod taith y fuddugoliaeth wedi cael ei wylio gan sawl can miliwn drwy’r byd.

“Da ni’n sicr yn nabod sut i roi parti ‘mlaen yn Wrecsam!!