Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025, 8.30am-11.30am
Canolfan Fusnes Conwy, Lôn y Gyffordd, Llandudno LL31 9XX
Ydych chi’n Fusnes Bach neu Ganolig sydd eisiau tyfu eich gweithlu? Mae recriwtio cynhwysol y peth iawn i’w wneud, ond mae hefyd yn ddoeth.
Trwy agor cyfleoedd i bobl gydag anableddau, cyflyrau iechyd neu sy’n niwrowahanol, gallwch gael mynediad at ddawn newydd, safbwyntiau ffres a chadw staff yn well.
Ymunwch â ni am ddigwyddiad ysbrydoledig lle byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan dri chyflogwr lleol sydd wedi addasu eu harferion recriwtio yn llwyddiannus er mwyn bod yn fwy cynhwysol.
Byddent yn rhannu:
- Yr hyn a wnaethant i agor drysau i gronfa ehangach o ymgeiswyr.
- Yr heriau y gwnaethant eu hwynebu a sut i’w goresgyn.
- Y manteision maent wedi’i weld ar gyfer eu timoedd a’u busnesau.
Dyma gyfle i ddysgu o brofiadau go iawn, gofyn cwestiynau, a chael syniadau ymarferol i wneud recriwtio cynhwysol i weithio ar gyfer eich sefydliad chi.
Siaradwyr
Daniel Jones, Tu-Mondo
O leoliad gwaith i gyflogaeth – agor drysau drwy gyfleoedd â chefnogaeth yn Tu Mundo.
Claire Morgan, ClwydAlyn
Llunio strategaeth recriwtio gynhwysol; meithrin arloesedd, cynnwys safbwyntiau amrywiol a chreu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.
Vicki Roskams, Enbarr Recruitment
Sut mae profiad personol o anabledd cudd yn sbarduno busnes cynhwysol, grymuso talent a anwybyddwyd, ac ailsiapio diwylliant y gweithle