Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg

Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 4, 2025 1:59 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Jake gyda Sinead Fox, rheolwr cartref gofal
RHANNU

Mae cynghorau sir Wrecsam a Sir y Fflint wedi uno i helpu mwy o bobl ag anableddau dysgu i gael swyddi cyflogedig o ansawdd da.

Cynnwys
  • Buddion i gyflogwyr
  • Cymorth am ddim i fusnesau
  • Sut i gymryd rhan
  • Rhagor o wybodaeth

Mae’r Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth newydd yn cael ei redeg gan dimau gwasanaethau cymdeithasol ar draws y ddwy sir, yn ogystal ag asiantaeth gyflogaeth arbenigol HfT Sir y Fflint.

Er bod llawer o bobl ag anableddau dysgu yn awyddus i weithio, dim ond 4.8% sydd mewn cyflogaeth â thâl ar hyn o bryd.

Mae’r ddau gyngor yn benderfynol o gynyddu cyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu, ac yn gofyn i gyflogwyr lleol helpu i wneud gwahaniaeth.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydyn ni yma i gefnogi cyflogwyr bob cam o’r ffordd, ac rydym yn cymryd amser i ddeall eu hanghenion busnes unigryw fel y gallwn eu helpu i ddod o hyd i’r pariadau swyddi gorau.”

“Gall cyflogi rhywun ag anabledd dysgu fod yn werth chweil iawn – mae yna lawer o fanteision busnes, a gallwch hefyd wneud byd o wahaniaeth i fywyd y person hwnnw.”

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol a Lles: “Ychydig iawn o bobl ag anableddau dysgu sydd mewn cyflogaeth â thâl, ac rydym am i’w potensial a’u talent gael eu cydnabod a’u dathlu.”

“I wneud hyn mae angen cefnogaeth busnesau lleol arnom. Mae’r Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth yma i helpu cyflogwyr i ddod o hyd i bobl ddibynadwy a gweithgar wrth feithrin gweithle cynhwysol.”

Mae’r gwasanaeth yn rhan o raglen ehangach sy’n cynnwys pob un o chwe chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac fe’i hariennir drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru.

Buddion i gyflogwyr

Gall hurio pobl ag anableddau dysgu fod o fudd i’ch busnes mewn sawl ffordd:

  • Maen nhw’n aros yn eu rolau 3.5 gwaith yn hirach ar gyfartaledd, gan arbed amser ac arian i chi ar recriwtio a hyfforddi.
  • Mae eu hurio yn rhoi hwb i enw da eich cwmni – mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi busnesau cynhwysol.
  • Mae eu cyfraddau absenoldeb 62% yn is o’i gymharu â gweithwyr eraill.
  • Mae 72% o gyflogwyr yn sgorio eu perfformiad yn gyfartalog, yn uwch na’r cyfartaledd, neu’n rhagorol.

Mae Cartref Gofal Oaks yn Shotton yn un o lawer o fusnesau lleol sy’n gweithio gyda HfT. Maen nhw’n cyflogi Jake, sy’n aelod gwerthfawr a phoblogaidd o’r tîm.

Dywedodd y rheolwr Sinead Fox: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi Jake gymaint am yr hyn y mae’n ei gyfrannu i’n cwmni – hwyl, positifrwydd, parodrwydd i fynd yr ail filltir, ac agwedd wych tuag at waith sy’n disgleirio.

“Mae gweithio gyda darparwr cyflogaeth â chymorth fel HFT wedi bod yn broses werth chweil a hawdd, ac maen nhw wedi cefnogi’r gweithiwr a ni fel cwmni o’r cychwyn cyntaf.

“Ers i ni gyflogi Jake mae ein dewisiadau wedi newid, ac roeddem yn pryderu y byddai’n gostus pe bai angen unrhyw addasiadau, ond nid oedd angen i ni boeni – nid yw wedi costio dim yn ychwanegol a gyda chefnogaeth arbenigol gan yr hyfforddwr swyddi mae wedi bod yn daith lyfn.

“Maen nhw wedi ein cefnogi ni a Jake gyda holl hyfforddiant gorfodol y cwmni a mwy.”

Cymorth am ddim i fusnesau

Gall y Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth:

  • Eich helpu i ddod o hyd i’r ymgeisydd iawn i ddiwallu eich anghenion busnes.
  • Eich tywys chi a’r ymgeisydd trwy bob cam o’r broses hurio.
  • Cefnogi’r gweithiwr newydd gyda sefydlu a hyfforddi.
  • Eich cynghori ar wneud addasiadau rhesymol a gwneud cais am gyllid Mynediad i Waith.
  • Darparu cefnogaeth barhaus i’ch busnes a’ch gweithiwr.

Sut i gymryd rhan

Os yw eich busnes wedi’i leoli yn Wrecsam neu Sir y Fflint, gallwch helpu drwy wneud y canlynol:

  • Rhannu swyddi gwag – dweud wrthym am swyddi gwag sydd ar ddod a’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.
  • Dod yn hyrwyddwr – dweud wrth gyflogwyr eraill am eich profiad o weithio gyda’r Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth.
  • Cynnig treialon gwaith neu brofiad gwaith – darparu lleoliadau i weld a yw ymgeisydd yn gweddu i’ch busnes, neu i’w helpu i feithrin sgiliau a phrofiad.
  • Ymweliadau cynnal – gwahodd cyfranogwyr i’ch gweithle i ddysgu am eich busnes a’ch rolau.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Julia Hawkins, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae Julia yma i’ch cefnogi, a gall drefnu ymweliad safle neu gael sgwrs achlysurol i drafod sut yr hoffech chi gymryd rhan.

Gallwch hefyd ffonio Julia Hawkins yn HfT ar 07795304758.

Disgrifiad o’r llun – Jake gyda Sinead Fox, rheolwr cartref gofal

Rhannu
Erthygl flaenorol trees Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Erthygl nesaf Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background. Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English