A ydych chi’n gwybod am rywun sy’n methu fforddio cael mynediad i’r we? Os ydych chi’n gwybod am rywun fyddai’n elwa o gael data symudol am ddim, gallwn ni helpu.
Rydym yn cydweithio â Banc Data Cenedlaethol y Sefydliad Good Things ac mae gennym nifer o gardiau SIM symudol am ddim i helpu aelodau’r gymuned sy’n teimlo eu bod yn cael eu heithrio’n ddigidol i gysylltu â’r we.
Sut mae’n gweithio?
Mae’r Banc Data Cenedlaethol yn debyg i fanc bwyd, ond ar gyfer data symudol. Fe’i sefydlwyd yn benodol i gefnogi’r rheiny sydd fwyaf ei angen, ac mae’r cardiau SIM yn rhodd hael gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.
Gwyliwch y fideo byr hwn i gael cipolwg o sut mae’n gweithio…
Mae mynediad i’r we’n rhan allweddol o’n cymdeithas heddiw, felly rydym yn awyddus i helpu trigolion Wrecsam sydd angen cymorth i gael mynediad at ddata am ddim.
Gall pobl sy’n profi tlodi data neu’n byw ar incwm isel wneud cais am eu cerdyn SIM symudol am ddim drwy gysylltu naill ai â Galw Wrecsam neu’r Ganolfan Les. (Gweler y meini prawf cymhwyso isod).
“Menter gadarnhaol iawn yr ydym yn awyddus i’w hyrwyddo a’i chefnogi”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol a’r Cefnogwr Atal Tlodi: “Dyma fenter gadarnhaol iawn yr ydym yn awyddus i’w hyrwyddo a’i chefnogi cystal ag y gallwn ni. Mae pobl sy’n methu cael mynediad at y we’n methu allan ar gysylltiadau cymdeithasol gwerthfawr gyda’u hanwyliaid, maent yn colli allan ar fedru dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yn rhwydd, ac mae hefyd yn gallu cael effaith ar eu sgiliau a’u datblygiad.
“Gyda fforddiadwyedd yn un o’r prif resymau pam fod pobl yn cael eu heithrio’n ddigidol, rydym yn annog pobl cymwys i ddod ymlaen i hawlio’r data symudol am ddim sydd ar gael drwy gysylltu â Galw Wrecsam neu’r Ganolfan Les.”
Pwy sy’n gymwys?
I fod yn gymwys am gerdyn SIM symudol am ddim, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn 18 oed ac yn dod o aelwyd incwm isel.
- A/NEU heb fynediad, neu heb fynediad digonol at y rhyngrwyd gartref
- A/NEU heb fynediad, neu heb fynediad digonol at y rhyngrwyd oddi cartref
- A/NEU yn methu fforddio eu contract misol presennol neu daliadau ychwanegu data
Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu eu henw, cyfeiriad a thystiolaeth eu bod yn dod o aelwyd incwm isel, gan gynnwys manylion Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn ac ati.
Os ydi hyn yn swnio fel chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, gallwch wneud cais am gerdyn SIM symudol am ddim drwy gysylltu naill ai â Galw Wrecsam neu’r Ganolfan Les.
A oes arnoch chi angen cymorth gyda chostau byw?
Mae ein tudalen ‘cymorth gyda chostau byw’ yn cynnwys gwybodaeth am fanciau bwyd a chypyrddau bwyd, rhifau ffôn defnyddiol, a llawer o wybodaeth am bethau fel grantiau, budd-daliadau, ac iechyd a lles.
Ewch i gael golwg ar y cymorth sydd ar gael.
Allech chi arbed £1,000 y flwyddyn? – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.