Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Data symudol AM DDIM i’r rheiny sydd fwyaf ei angen…a ydych chi’n gwybod am rywun y gallwn eu helpu?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Data symudol AM DDIM i’r rheiny sydd fwyaf ei angen…a ydych chi’n gwybod am rywun y gallwn eu helpu?
Pobl a lleArall

Data symudol AM DDIM i’r rheiny sydd fwyaf ei angen…a ydych chi’n gwybod am rywun y gallwn eu helpu?

Diweddarwyd diwethaf: 2024/10/10 at 12:17 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Fr
RHANNU

A ydych chi’n gwybod am rywun sy’n methu fforddio cael mynediad i’r we? Os ydych chi’n gwybod am rywun fyddai’n elwa o gael data symudol am ddim, gallwn ni helpu.

Cynnwys
Sut mae’n gweithio?“Menter gadarnhaol iawn yr ydym yn awyddus i’w hyrwyddo a’i chefnogi” Pwy sy’n gymwys?A oes arnoch chi angen cymorth gyda chostau byw?

Rydym yn cydweithio â Banc Data Cenedlaethol y Sefydliad Good Things ac mae gennym nifer o gardiau SIM symudol am ddim i helpu aelodau’r gymuned sy’n teimlo eu bod yn cael eu heithrio’n ddigidol i gysylltu â’r we.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r Banc Data Cenedlaethol yn debyg i fanc bwyd, ond ar gyfer data symudol.  Fe’i sefydlwyd yn benodol i gefnogi’r rheiny sydd fwyaf ei angen, ac mae’r cardiau SIM yn rhodd hael gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.

Gwyliwch y fideo byr hwn i gael cipolwg o sut mae’n gweithio…

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae mynediad i’r we’n rhan allweddol o’n cymdeithas heddiw, felly rydym yn awyddus i helpu trigolion Wrecsam sydd angen cymorth i gael mynediad at ddata am ddim.

Gall pobl sy’n profi tlodi data neu’n byw ar incwm isel wneud cais am eu cerdyn SIM symudol am ddim drwy gysylltu naill ai â Galw Wrecsam neu’r Ganolfan Les. (Gweler y meini prawf cymhwyso isod).

“Menter gadarnhaol iawn yr ydym yn awyddus i’w hyrwyddo a’i chefnogi”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol a’r Cefnogwr Atal Tlodi: “Dyma fenter gadarnhaol iawn yr ydym yn awyddus i’w hyrwyddo a’i chefnogi cystal ag y gallwn ni. Mae pobl sy’n methu cael mynediad at y we’n methu allan ar gysylltiadau cymdeithasol gwerthfawr gyda’u hanwyliaid, maent yn colli allan ar fedru dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yn rhwydd, ac mae hefyd yn gallu cael effaith ar eu sgiliau a’u datblygiad. 

“Gyda fforddiadwyedd yn un o’r prif resymau pam fod pobl yn cael eu heithrio’n ddigidol, rydym yn annog pobl cymwys i ddod ymlaen i hawlio’r data symudol am ddim sydd ar gael drwy gysylltu â Galw Wrecsam neu’r Ganolfan Les.”

Pwy sy’n gymwys?

I fod yn gymwys am gerdyn SIM symudol am ddim, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn 18 oed ac yn dod o aelwyd incwm isel. 

  • A/NEU  heb fynediad, neu heb fynediad digonol at y rhyngrwyd gartref
  • A/NEU  heb fynediad, neu heb fynediad digonol at y rhyngrwyd oddi cartref
  • A/NEU yn methu fforddio eu contract misol presennol neu daliadau ychwanegu data

Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu eu henw, cyfeiriad a thystiolaeth eu bod yn dod o aelwyd incwm isel, gan gynnwys manylion Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn ac ati.

Os ydi hyn yn swnio fel chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, gallwch wneud cais am gerdyn SIM symudol am ddim drwy gysylltu naill ai â Galw Wrecsam neu’r Ganolfan Les.

A oes arnoch chi angen cymorth gyda chostau byw?

Mae ein tudalen ‘cymorth gyda chostau byw’  yn cynnwys gwybodaeth am fanciau bwyd a chypyrddau bwyd, rhifau ffôn defnyddiol, a llawer o wybodaeth am bethau fel grantiau, budd-daliadau, ac iechyd a lles.

Ewch i gael golwg ar y cymorth sydd ar gael.

Allech chi arbed £1,000 y flwyddyn? – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymerwch ran yn Her Fawr y Ceblau ar Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff Cymerwch ran yn Her Fawr y Ceblau ar Ddiwrnod Rhyngwladol E-Wastraff (14 Hydref)
Erthygl nesaf Ydych chi wedi cadarnhau eich manylion eto? Ydych chi wedi cadarnhau eich manylion eto?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English