Mae pawb yn gwybod bod gwariant twristiaeth ar gynnydd yn Wrecsam.
Rydym wedi ymuno â busnes yng nghanol y dref sy’n darparu llety i ymwelwyr er mwyn eu helpu i wneud ehangiad mawr i’w hadeilad.
Rydym wedi rhoi benthyciad di-log i The Lemon Tree, Ffordd Rhosddu, er mwyn eu helpu i ariannu rhan o waith arfaethedig sydd ar y gweill i adeiladu estyniad newydd i’w hadeilad presennol, gan ddarparu saith ystafell newydd.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r cynllun wedi ei alluogi diolch i Gynllun Benthyciad Gwella Canol Tref Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn dechrau yn ddiweddarach eleni a chaiff ei gwblhau erbyn gwanwyn 2020.
Meddai Sam Regan, perchennog The Lemon Tree: “Yn y blynyddoedd diweddar, mae gwariant twristiaeth yn Wrecsam wedi cynyddu’n sylweddol, ac mae mwy o alw am lety yng nghanol y dref.
“Ar hyn o bryd, gallwn ddarparu 12 gwely, ond mae galw eithaf cyson am lety drwy’r flwyddyn. Bydd y gwaith hwn yn galluogi i ni ychwanegu saith ystafell wely arall ac ehangu ein busnes ymhellach.
“Rydym wedi bod yn awyddus i ehangu darpariaeth ein llety ers cryn amser, ond o ystyried maint y gwaith sy’n ofynnol, ni fyddem wedi gallu cael cyllid cyfalaf fel busnes preifat, a dim ond gyda chefnogaeth o’r tu allan y gallem fod wedi gwneud hynny.
“O ganlyniad, rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Wrecsam am eu cefnogaeth o ddarparu Cynllun Benthyciad Gwella Canol Tref Llywodraeth Cymru – bydd yn ein galluogi i gynnal gwaith ehangu mawr ei angen.”
Meddai Sion Wynne, Swyddog Gwella Adeiladau’r Sector Preifat: “Dyma fydd y benthyciad cyntaf o’i fath yr ydym wedi gallu ei ddarparu, ac un o’r benthyciadau mwyaf i ni ei ddarparu erioed mae’n debyg – felly mae’n wych ein bod ni wedi gallu ei ddarparu i fusnes lleol fel The Lemon Tree.
“Mae The Lemon Tree reit yng nghanol Wrecsam, ac mae’n adnabyddus iawn yn y dref fel busnes lleol – rydym yn falch iawn y bydd y benthyciad hwn yn cefnogi ac yn gwella economi canol y dref yn uniongyrchol.
“Yn ogystal, bydd y deunyddiau a’r llafur a ddarperir ar gyfer y gwaith hwn yn dod gan gwmnïau a chontractwyr lleol – dyma hwb arall i’r economi lleol y tu allan i estyniad uniongyrchol The Lemon Tree.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros Berfformiad Economaidd ac Adfywio, “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi The Lemon Tree gyda’r benthyciad hwn, a byddem yn annog unrhyw fusnesau sy’n ystyried gwaith ehangu i gysylltu â’n Hadran Tai ac Economi.
“Bydd meini prawf y bydd angen eu bodolon mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad, ond byddem yn annog busnesau i drafod eu hopsiynau gyda ni a gweld pa fath o gefnogaeth sydd ar gael.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN