Mae brandin newydd wedi cael ei ddatgelu ar gyfer Tŷ Pawb, gan ychwanegu momentwm wrth i ddatblygiad hen safle Marchnad y Bobl gyrraedd misoedd olaf y prosiect.
Mae arbenigwyr brandio o Gaerdydd, Elfen, wedi bod yn gweithio’n galed dros y chwe mis diwethaf i ddylunio brand arbennig ac unigryw. Maent wedi ymgymryd â phroses hir a oedd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus i ddewis enw newydd ar gyfer y ganolfan.
Mae’r brandin newydd yn ddyluniad glân, trawiadol sydd yn cynrychioli amcanion modern ac uchelgeisiol y farchnad, a’r ganolfan gymunedol a chelfyddydau newydd. Elfen fydd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu arwyddion mewnol ar gyfer Tŷ Pawb.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae’r is-bennawd sydd yn cyd-fynd â’r logo, Marchnadoedd – Celfyddydau – Cymuned yn cyfleu safle Tŷ Pawb fel adnodd diwylliannol cymunedol, gan ddod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd o dan yr un to.
Fe fydd Tŷ Pawb yn agor i’r cyhoedd ar Benwythnos y Pasg 2018 gyda gorymdaith Dydd Llun Pawb a’r arddangosfa gyntaf yn yr oriel newydd, ‘Ai’r Ddaear yw Hon?’.
Yn ôl datganiad gan y dylunwyr, Elfen: “Mae’r Logo a’r brand wedi cael eu dylunio i adlewyrchu ethos prosiect Tŷ Pawb, sef y cysyniad o bawb yn dod ynghyd i greu cartref bywiog a chyffrous ar gyfer y marchnadoedd, y celfyddydau a’r gymuned leol.
“Mae pob rhan yn cyfoethogi’r prosiect a bydd yn amser cyffrous i’w weld yn dod yn fyw’r flwyddyn nesaf. Fe fydd 2018 yn flwyddyn wych i Wrecsam”.
Dwedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r logo newydd yn rhan gref o ddelwedd Tŷ Pawb, ac mi fydd y logo yn helpu i ddiffinio’r datblygiad cymuned, celfyddydau, a marchnadoedd newydd, wrth i ni edrych ymlaen at Ddydd Llun Pawb.
“Diolch i bob swyddog a phartneriaid a chymrodd rhan mewn ffurfio’r logo a’r ddelwedd am Dŷ Pawb.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU