Croeso i Bawb
Bydd prynhawn o weithgareddau ac adloniant Cymraeg yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ar 20 Hydref rhwng 1-5pm, ac mae croeso cynnes i bawb.
Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan y Clwstwr Cymraeg, sy’n cynnwys grŵp o sefydliadau lleol sy’n defnyddio, dysgu a hyrwyddo’r Gymraeg, yn rhoi cyfle i ddathlu’r hyn sy’n digwydd yn Wrecsam, yn ogystal â rhoi digon o gyfle i ofyn cwestiynau a dysgu mwy am fanteision addysg Gymraeg.
Yn dod yn fuan!
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys lansio’r wefan AGW newydd. (Addysg Gymraeg Wrecsam) Mae’r wefan yn adnodd gwbl newydd sy’n cyflwyno, cefnogi a rhannu gwybodaeth ac yn dathlu addysg cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Technoleg a’r Gymraeg
Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i chi roi cynnig ar ein pensentiau VR iaith Gymraeg – dewch i weld sut hwyl gewch chi yn yr amgylchedd 3D ymdrochol!
Amseroedd y Digwyddiadau:
1pm – Y digwyddiad yn agor i’r cyhoedd / stondinau ar agor
2pm – Agoriad swyddogol / lansio’r wefan a ffilm
2.30pm – Chwarae blêr ac ymweliad gan ‘Dewin’
2.30-3pm – Sesiwn grefft a chanu gyda Magi Ann
3-3.30pm – Adloniant cerddorol gan ddysgwyr Ysgol Morgan Llwyd
3.30-4pm – Disgo tawel
4-4.30pm – Seren a Sbarc
4.30-5pm – Profiad penset VR
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Bydd hwn yn gyfle gwych i arddangos yr holl waith ardderchog sy’n digwydd o fewn ac o amgylch Wrecsam i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.”