Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathliad o’r Gymraeg yn Wrecsam i nodi lansiad gwefan Addysg Gymraeg newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dathliad o’r Gymraeg yn Wrecsam i nodi lansiad gwefan Addysg Gymraeg newydd
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

Dathliad o’r Gymraeg yn Wrecsam i nodi lansiad gwefan Addysg Gymraeg newydd

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 16, 2023 12:56 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Dathliad o’r Gymraeg yn Wrecsam i nodi lansiad gwefan Addysg Gymraeg newydd
RHANNU

Croeso i Bawb

Bydd prynhawn o weithgareddau ac adloniant Cymraeg yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ar 20 Hydref rhwng 1-5pm, ac mae croeso cynnes i bawb. 

Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan y Clwstwr Cymraeg, sy’n cynnwys grŵp o sefydliadau lleol sy’n defnyddio, dysgu a hyrwyddo’r Gymraeg, yn rhoi cyfle i ddathlu’r hyn sy’n digwydd yn Wrecsam, yn ogystal â rhoi digon o gyfle i ofyn cwestiynau a dysgu mwy am fanteision addysg Gymraeg.

Yn dod yn fuan!

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys lansio’r wefan AGW newydd. (Addysg Gymraeg Wrecsam) Mae’r wefan yn adnodd gwbl newydd sy’n cyflwyno, cefnogi a rhannu gwybodaeth ac yn dathlu addysg cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Technoleg a’r Gymraeg

Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i chi roi cynnig ar ein pensentiau VR iaith Gymraeg – dewch i weld sut hwyl gewch chi yn yr amgylchedd 3D ymdrochol!

Amseroedd y Digwyddiadau:

1pm – Y digwyddiad yn agor i’r cyhoedd / stondinau ar agor

2pm – Agoriad swyddogol / lansio’r wefan a ffilm

2.30pm – Chwarae blêr ac ymweliad gan ‘Dewin’

2.30-3pm – Sesiwn grefft a chanu gyda Magi Ann

3-3.30pm – Adloniant cerddorol gan ddysgwyr Ysgol Morgan Llwyd

3.30-4pm – Disgo tawel

4-4.30pm – Seren a Sbarc

4.30-5pm – Profiad penset VR

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Bydd hwn yn gyfle gwych i arddangos yr holl waith ardderchog sy’n digwydd o fewn ac o amgylch Wrecsam i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.”

Rhannu
Erthygl flaenorol B Hwb o £200,000 i wasanaethau bws yn Wrecsam
Erthygl nesaf Llys y mynydd Gwaith adnewyddu tai gwarchod yn Rhos wedi hen ddechrau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English