Mae dathliad canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd a gofynnwn i unrhyw grŵp, sefydliad neu unigolyn sy’n trefnu digwyddiad i ddathlu, roi gwybod i ni amdano.
Byddwn yn creu llyfryn i’w rannu ar draws y fwrdeistref sirol fel bod cyfle i bawb gymryd rhan mewn un ffordd neu’i gilydd pe dymunent.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Anfonwch fanylion o’ch digwyddiad gan ddechrau gyda disgrifiad cryno o’r hyn sydd ar y gweill, dyddiad ac amser y digwyddiad, ac ymhle fydd y digwyddiad yn digwydd. Os yw’n ddigwyddiad lle bydd angen archebu lle neu brynu tocynnau, rhowch fanylion archebu a phrisiau.
Gallwch anfon eich ddigwyddiadau AFCC@wrexham.gov.uk – byddaf yn eu hangen cyn Medi 12.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae hon yn flwyddyn coffa arbennig iawn ac rwy’n siŵr y bydd cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol yn dymuno cymryd rhan mewn rhyw ffordd. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn casglu’r holl wybodaeth a gaiff ei anfon i ni mewn llyfryn, fel y gallwn gyfeirio pobl i’w digwyddiad agosaf ar unwaith.”
Rydym hefyd yn trefnu ein gweithgareddau ein hunain ar gyfer y Penwythnos Coffa ar 10 ac 11 Tachwedd a byddwn yn cyhoeddi’r manylion yn fuan.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN