Nodwyd ym mis Mai ein bod yn bwriadu dathlu 100 mlynedd yr Awyrlu Brenhinol drwy roi Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru.
Ers hynny mae gwaith wedi bod ar y gweill y tu ôl i’r llenni i gynllunio digwyddiad yng nghanol y dref er mwyn i bawb ei fwynhau ac mae’r trefnwyr eu hunain wedi synnu faint fydd yn digwydd!
Rhoddir Rhyddid y Fwrdeistref Sirol ddydd Mercher 22 Awst yng nghyfarfod llawn y Cyngor. Bydd y dathliadau cyhoeddus yn dechrau ddydd Iau 23 Awst pan ddadorchuddir plac coffáu Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol yng ngerddi coffa’r Awyrlu Brenhinol ar Sgwâr y Frenhines. Bydd awyren Hercules hefyd yn hedfan dros y safle am 12 canol dydd.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Cynhelir y prif ddathliad ar 25 Awst pan fydd digwyddiadau ac adloniant am ddim ar draws canol y dref a fydd yn apelio at bobl o bob oedran a chefndir.
“Hedfan Dakota”
Cynhelir digwyddiad Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol ei hunan yn Llwyn Isaf, a bydd yn ddigwyddiad arbennig iawn gydag awyren yr Awyrlu Brenhinol yn y safle canolog ar y maes gyda chyfleusterau arlwyo a lluniaeth o’i hamgylch, stondinau lluoedd arfog, efelychwr hedfan, panel offer Spitfire, oll ar gael i ddiddanu pawb a gyda cherddoriaeth o safle’r seindorf. Bydd digwyddiad arbennig i’r dyrfa ar ffurf Mwstro’r Awyrlu Brenhinol gan bersonél yr Awyrlu Brenhinol, ynghyd â Sgwadron Cadetiaid Awyr lleol a chyn-filwyr, a rhoddir y saliwt gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams. Bydd seremoni Mwstro’r Awyrlu Brenhinol yn dechrau am 2.25pm ac uchafbwynt y prynhawn fydd yr Awyren Dakota yn hedfan uwchben oddeutu 3.17pm.
“Gŵyl Stryd yn ymuno â thema hynafol ar gyfer dathliadau’r Awyrlu Brenhinol”
Ar yr un pryd â’r dathliadau Rhyddid bydd llawer o hwyl ar Sgwâr y Frenhines a’r strydoedd cyfagos gyda Gŵyl Stryd Awst yn cael ei chynnal. Mae’r trefnwyr wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y bydd yn ategu at ddigwyddiad Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol gyda thema hynafol i’r teulu cyfan ei fwynhau – bydd stondinau arferol, diddanwyr, atyniadau a nifer o siopau a marchnadoedd annibynnol i bori drwyddynt.
“Ac mae mwy…”
Cynhelir arddangosfeydd arbennig hefyd – un ar safle Techniquest a fydd ar agor o ddydd Iau 23 Awst i ddangos Arddangosfa Hanesyddol yr Awyrlu Brenhinol.
Cynhyrchwyd yr arddangosfa gan haneswyr yr Awyrlu Brenhinol a bydd yn cynnwys arddangosfeydd am hanes Gorsaf yr Awyrlu Brenhinol a fu yn Wrecsam yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Bydd hefyd yn cynnwys arddangosfeydd am bobl o Wrecsam sydd wedi gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol gyda rhagoriaeth – mae hyn yn cynnwys arbenigwyr brwydrau’r ail Ryfel Byd, Awyr-Lefftenant David Lord, y cyflwynwyd Croes Fictoria iddo ar ôl iddo farw wrth hedfan dros Arnhem ym 1944, ynghyd ag eraill o Wrecsam a oedd yn bwysig mewn digwyddiadau eraill yn ystod y rhyfel, yn amrywio o’r Ddihangfa Fawr i gyrch enwog yr Awyrlu Brenhinol ym 1943 ar safle rocedi cyfrinachol yr Almaen, Peenumunde.
Fel rhan o Arddangosfa Hanesyddol yr Awyrlu Brenhinol, bydd yr Awyrlu Brenhinol hefyd yn darparu cydweithwyr o’r Archifau Cenedlaethol a all eich cynorthwyo i ddysgu mwy am berthnasau a fu’n gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol dros y 100 mlynedd diwethaf.
Bydd Techniquest hefyd yn cynnal nifer o arddangosfeydd gwyddoniaeth a thechnoleg rhyngweithiol a fydd yn hwyl i’r rhai ifanc – a’r rhai sydd ychydig yn hŷn hefyd.
“Lluniau pwerus yn Nhŷ Pawb”
Bydd Tŷ Pawb hefyd yn ymuno â’r dathlu gydag arddangosfa o luniau o’r enw “Equipped for Life” sy’n dangos darluniau pwerus o’r anawsterau y mae personél y lluoedd arfog wedi’u hwynebu wrth adael y gwasanaeth. Mae darluniau pwerus a straeon llawn ysbrydoliaeth ac mae’n rhaid ymweld â’r arddangosfa er mwyn deall sut beth yw addasu ar gyfer “bywyd arferol” ar gyfer y rhai sydd wedi wynebu sefyllfaoedd anodd ac wedi wynebu trawma ac anafiadau corfforol o ganlyniad i’w gwasanaeth. Bydd Tŷ Pawb hefyd yn cynnal gweithdai celf gyda thema’r Awyrlu Brenhinol.
“Rhywbeth i Bawb”
Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym yn falch iawn ein bod ni yn Wrecsam yn cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref Sirol ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru ac rwy’n gwybod y bydd pawb yn cefnogi’r digwyddiadau a gynlluniwyd Mae rhywbeth i bawb – cyn-filwyr, milwyr presennol, teuluoedd, rhai sydd â diddordeb mewn hanes milwrol a’r rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau.
Mae cymaint ar y gweill ac mae llawer o bobl i ddiolch iddynt am ddatblygu’r digwyddiadau hyn a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hymrwymiad diflino i sicrhau bod yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru yn cael eu coffáu am eu gwasanaeth yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.”
“Mae nifer wedi gwasanaethu’n falch gyda’r Awyrlu Brenhinol”
Dywedodd Comodor yr Awyrlu, Adrian Williams “Mae’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru yn falch iawn o dderbyn Rhyddid y Fwrdeistref Sirol. Mae’n fraint enfawr ac yn un y byddwn yn ei werthfawrogi bob amser. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfranogi ac i bobl Wrecsam am gefnogi’r anrhydedd hon, mae nifer ohonynt wedi ymuno â’n rhengoedd dros y blynyddoedd ac wedi gwasanaethu’n falch gyda’r Awyrlu Brenhinol. Gobeithiaf y caf gwrdd â nifer ohonoch ar 25 Awst ar gyfer y dathliad arbennig hwn a fydd yn ddigwyddiad cofiadwy”
Gallwch weld mwy am arddangosfa Equipped for Life yma.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION