Yng Nghymru mae gennym draddodiad balch o fod yn genedl groesawus, amrywiol, sy’n mynd yn ôl ymhellach nag all neb ei gofio.
Ond yn aml nid yw’r hanesion am drugaredd a dealltwriaeth yn ein cymunedau’n cael u clywed.
Helpwch hyrwyddo neges cynwysoldeb i bawb drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb drwy ychwanegu eich syniadau at y sgwrs.
Ar 15 Hydref o 12-2pm yn Nhŷ Pawb, bydd #CroesoCymru yn dathlu’r hanesion hynny gyda sgyrsiau, trafodaeth, cymorth i ddioddefwyr troseddau casineb, cerddoriaeth, y gair llafar, stondinau…. a bwyd am ddim!
Mae #CroesoCymru yn gyfle gwych i ddathlu’r gorau o’n diwylliant a’n cymuned. Dyma hanesion ein bywydau – ac maent yn ein hatgoffa ein bod yn gryfach ac yn hapusach gyda’n gilydd.
I unrhyw un sy fethu fynychu am 12pm, bydd Gareth a Monika hefyd ar gael yn Nhŷ Pawb rhwng 6-8pm, gan ddarparu taflenni a gwybodaeth arall o’r digwyddiad. Mae hwn hefyd yn gyfle i sgwrsio â’n Tîm Cydlyniant ar sail un-i-un.
Am y digwyddiad hwn
12-12.10pm: Tair Chwedl o Gymru: Sgwrs ar amrywiaeth Cymru gan Gareth Hall
12.10-12.40pm: “Beth mae bod yn Gymraeg yn ei olygu i chi?” Sgwrs agored ar hunaniaethau Cymreig amrywiol
12.40-12.55pm: Lleisiau o Gymru, Rhan1: Perfformiad gair llafar gan Natasha Borton
12.55-1.05pm: Te a Choffi, gyda dewis amrywiol o fwydydd bendigedig Cymreig a Phwyleg
1.05-1.30pm: Rhoi gwybod am droseddau casineb: Holi ac Ateb a chyngor gan y Swyddog Amrywiaeth Gary Robert Shaw
1.30-1.45pm: Cymorth i Ddioddefwyr : Sgwrs gyfeillgar gyda Jessica Rees a Trudy Peese
1.45-2pm: Lleisiau o Gymru, Rhan2: Perfformiad acwstig arbennig gan Josh Fielden
GOFRESTR