Yr wythnos ddiwethaf, croesawyd grŵp o swyddogion Llywodraeth Cymru i Adeiladau’r Goron yn Wrecsam fel rhan o’u hymweliad â Gogledd Cymru.
Daethant i Wrecsam i gwrdd â staff sy’n gweithio ar ddau brosiect a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae’r gronfa hon yn dod â nifer o ffrydiau ariannu presennol at ei gilydd ac yn canolbwyntio ar ofal yn y gymuned, iechyd emosiynol a lles, cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, plant sydd wedi cael profiad o ofal, gwasanaethau gartref o’r ysbyty, a datrysiadau sy’n seiliedig ar lety.
Y ddau brosiect yw’r gwasanaeth atal integredig a chatalyddion cymunedol:
Mae Gwasanaeth Atal Integredig yn rhoi cefnogaeth i bobl sy’n dymuno aros neu ddychwelyd i’w cartref eu hunain, ond y gall fod angen cefnogaeth fyrdymor arnynt i wneud hynny yn yr hirdymor. Gall Gwasanaeth Atal Integredig greu cynllun wedi’i deilwra i helpu pobl i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt.
Menter gymdeithasol yw Catalyddion Cymunedol, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Bwrdd Iechyd. Mae’n cefnogi pobl i sefydlu fel ‘micro-fentrau’ – busnesau bach yn amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi wyth o bobl – sy’n cynnig gwasanaethau gofal a chefnogaeth hyblyg a phersonol i bobl hŷn, pobl sy’n byw ag anableddau, pobl y mae eu hiechyd meddwl yn wael a gofalwyr. Bwriad y gwasanaethau a gynigir yw ehangu’r cynnig gofal presennol gan yr awdurdod lleol, darparwyr annibynnol a’r trydydd sector.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae yna angen i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o ddarparu gofal a chefnogaeth i fodloni anghenion gofal cynyddol y boblogaeth sy’n byw gartref, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle mae’r galw am wasanaethau’n uchel. Mae’r farchnad gofal cymdeithasol yn wynebu heriau sylweddol o ran recriwtio sy’n arwain at gyfnod hir o aros i unigolion sydd angen gofal gartref. Mae Catalyddion Cymunedol wedi eu comisiynu i helpu i greu marchnadoedd cymunedol gwydn, yn ogystal â chynnig y gallu i unigolion i gynnal lles a chael mynediad at eu cymuned a’u cyfoedion; gan leihau’r galw ar wasanaethau gofal cartref a phreswyl Wrecsam.”
Croesawodd yr Uwch Bennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Alison Reeve a Phennaeth Gwasanaeth Dros Dro Pobl Hŷn a Chomisiynu, ein gwesteion, gan ddweud: “Roedd yn bleser rhannu’r gwaith yr ydym yn ei arwain yn Wrecsam gyda Llywodraeth Cymru, a dangos ein bod yn ymroddedig i wella gwasanaethau a chefnogi ein dinasyddion i aros yn annibynnol gartref cyhyd â phosibl.
“Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym hefyd bob amser yn chwilio am staff brwdfrydig a phrofiadol. Os ydych chi’n brofiadol ym maes gofal cymdeithasol ac yn teimlo y byddech chi’n berffaith ar gyfer ein tîm arloesol sy’n ehangu, edrychwch ar dudalennau recriwtio’r cyngor i weld beth sydd ar gael.”