Bu dros 6000 o ddisgyblion o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig eleni, a dyfarnwyd gwobrau i Ysgol Sant Christopher ac Ysgol Gynradd Gymunedol Holt.
Nod y gwobrau hyn yw annog pobl ifanc yng Nghymru i gymryd diddordeb yn eu treftadaeth, ac edrych ar y ffyrdd y mae teuluoedd a chymunedau wedi cyfrannu tuag ati, a gwerthfawrogi hynny.
Cynhelir y gwobrau bob blwyddyn, a dyma’r tro cyntaf ers cyn Covid yr oedd y beirniaid wedi gallu ymweld â’r ysgolion a’r disgyblion yn bersonol.
Enillodd Ysgol Sant Christopher darian Addysg Arbennig a Darpariaeth Amgen 2023 am ei phrosiect atyniadol, ysgol gyfan, o’r enw ‘Cynefin, Cymuned, Cae Ras – Local Area, Community, Racecourse Ground’, a oedd yn canolbwyntio ar ddylanwad Clwb Pêl-droed Wrecsam ar Wrecsam a chymuned yr ysgol. Yn ogystal â chaniatáu i’r disgyblion gymryd rhan ymarferol yn natblygiad y stadiwm newydd, yr oedd y prosiect yn cynnwys ymweliadau i’r ysgol gan aelodau o dîm merched Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn ogystal â theithiau i’r stadiwm a’r amgueddfa i roi dealltwriaeth i’r disgyblion o hanes hir a threftadaeth y clwb. Bydd y prosiect yn cael ei arddangos yn y stadiwm ac mae llwybr treftadaeth Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi ei ddatblygu gan yr ysgol.
Yr oedd astudiaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Holt (o’r enw ‘It’s Not Just Jam’) yn canolbwyntio’n agos ar un ardal o’r gymuned, ac yn astudio effeithiau’r Ail Ryfel Byd arni. Golygai hyn y gallai’r plant archwilio hanes fel y digwyddodd yn eu pentref, a dysgu am yr hyn a brofwyd gan y cenedlaethau a oedd yno o’r blaen. Yr oedd y prosiect yn portreadu hyn yn fyw drwy flasu, celf, profiad a chyflwyniadau digidol.
Cyflwynwyd gwobrau mawreddog y Fenter i chwe deg saith o ysgolion yng Nghymru am eu hymchwil creadigol ac amrywiol. Rhannwyd mwy na £32,000 o wobrau ariannol a derbyniodd enillwyr Wrecsam eu gwobrau yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis yn gynharach y mis hwn.
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae’n hynod o bwysig i blant a phobl ifanc yng Nghymru ddysgu am eu treftadaeth, ac rwyf mor falch o glywed am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn ysgolion Wrecsam. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth, yn arbennig y disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Holt ac Ysgol Sant Christopher am y gwaith a wnaed ar gyfer eu prosiectau ardderchog, am ddysgu am eu treftadaeth, ac am ysbrydoli eraill i ddysgu hefyd.”
Dywedodd Angharad Williams, Cadeirydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig: “Cafwyd nifer uwch nag erioed o ysgolion yn cystadlu eleni, felly mae’n amlwg bod gofyniad y cwricwlwm newydd yn sicrhau bod ein cystadleuaeth yr un mor berthnasol ac atyniadol ag erioed. Mae’n galonogol gweld cymaint o angerdd a balchder yn ein pobl ifanc wrth iddyn nhw drafod a rhannu canlyniadau eu hymchwil.
“Dylai pob un o enillwyr 2023 fod yn haeddiannol falch, ac maent yn bendant yn haeddu’r cyfle i’w gwaith ardderchog gael ei gydnabod a’i ddathlu. I’n galluogi i ddyfarnu gwobrau mor hael, mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn ddiolchgar dros ben i bob un o’n noddwyr ffyddlon, gan gynnwys Sefydliad Moondance a Sefydliad Hodge, am eu haelioni.”
Mae rhestr o’r holl enillwyr ynghyd â’r beirniadaethau ar wefan Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.