Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dau gaffi yn Wrecsam yn cael eu henwi yn yr Independent Coffee Guide
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dau gaffi yn Wrecsam yn cael eu henwi yn yr Independent Coffee Guide
ArallPobl a lle

Dau gaffi yn Wrecsam yn cael eu henwi yn yr Independent Coffee Guide

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 20, 2019 4:16 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Dau gaffi yn Wrecsam yn cael eu henwi yn yr Independent Coffee Guide
RHANNU

Eleni mae siop goffi Bank Street Social yng nghanol tref Wrecsam wedi’i rhestru yn yr ‘Independent Coffee Guide’, sef y canllaw i siopau coffi a chraswyr coffi arbenigol.

Cynnwys
  • “Mae ‘Dolig wedi dod yn fuan”
  • “Stamp cymeradwyaeth”

Mae’r Independent Coffee Guide yn amlygu siopau coffi a chraswyr coffi sydd wedi ennill enw da yn y diwydiant, a hwn ydi’r pumed rhifyn. Mae’r canllaw eleni yn fwy ac yn well nag erioed, gan fod canolbarth Lloegr wedi ymuno â gogledd Cymru a gogledd Lloegr i helpu pobl ddewis a dethol y siopau coffi gorau yn eu hardal. Mae’r siopau sydd wedi’u cynnwys yn y canllaw wedi’u dewis gan arbenigwyr coffi, ac mae’r canllaw yn helpu pobl ddarganfod siopau coffi indi ac arloesol o Fangor i Newcastle.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Ond yr hyn sy’n gwneud y rhifyn hwn yn arbennig ydi’r ffaith mai dim ond 7 siop goffi sydd o Gymru, a dau ohonynt yn Wrecsam.

Mae Bank Street Social yn ymuno â King Street Coffee Company, sydd wedi’i leoli yng ngorsaf fysiau Wrecsam ac sydd wedi’i restru yn y canllaw am y drydedd flynedd yn olynol.

“Mae ‘Dolig wedi dod yn fuan”

Meddai Andy Gallanders o Bank Street Social: “Efallai bod hyn yn swnio’n wirion, ond mae’n teimlo fel pe bai ‘Dolig wedi dod yn fuan. Mae cael ein cynnwys yn y canllaw hwn yn anrhydedd fawr. Rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i gyflawni’r acolâd yma. Mae gallu ymuno â King Street Coffee Company ar y rhestr yn deimlad gwych. Mae Phil o KSCC yn gystadleuydd i mi ond mae o hefyd yn frawd i mi, felly mae’r gystadleuaeth rhyngom ni wedi fy sbarduno i gael enw fy siop ar y rhestr.”

Cafodd King Street Coffee Company ei gynnwys yn y canllaw am y tro cyntaf yn 2017 ac eleni ydi’r drydedd flwyddyn i’r siop goffi yn yr orsaf fysiau gael ei chynnwys. Meddai Phil: “Mae’n deimlad braf cael fy nghynnwys yn y canllaw eto, dw i wedi defnyddio’r canllawiau fy hun a thros y blynyddoedd mae cwsmeriaid wedi ymweld â Wrecsam er mwyn blasu ein coffi ni. Mae’n braf gwybod ein bod ni’n dod ag ychydig o dwristiaeth i’r dref!”

“Stamp cymeradwyaeth”

Meddai Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan Wrecsam: “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Bank Street Social a King Street Coffee wedi codi’r safonau o ran darparu coffi artisan gwych, cyfrannu at fywyd cymunedol a chroesau ymwelwyr i Wrecsam. Mae cael eu cynnwys yn yr Independent Coffee Guide yn stamp cymeradwyaeth ar gyfer y siopau yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth pobl o Wrecsam fel cyrchfan bwyd a diod.

Wyt ti’n hoffi coffi? Gallwch gael copi o’r canllaw yn Bank Street Social a King Street Coffee Company.

Dyma beth sydd gan y canllaw i’w ddweud am Bank Street Social:

Dau gaffi yn Wrecsam yn cael eu henwi yn yr Independent Coffee Guide

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymunwch â hwyl yr ŵyl yn Amgueddfa Wrecsam Ymunwch â hwyl yr ŵyl yn Amgueddfa Wrecsam
Erthygl nesaf Artist lleol yn cipio’r brif wobr yn arddangosfa newydd Tŷ Pawb. Artist lleol yn cipio’r brif wobr yn arddangosfa newydd Tŷ Pawb.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English