Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen #DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > #DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad
Arall

#DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 16, 2021 2:26 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Bonfires
RHANNU

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy’n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny’n bosibl, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 i fynd i’r afael â’r achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml o ganlyniad i’n hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.

Yn ystod 2020, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,253 o danau glaswellt. Er bod hyn yn gynnydd bach o’i gymharu â 2019, roedd nifer y tanau damweiniol yn ystod 2020 wedi cynyddu 20%. Priodolwyd y cynnydd hwn yn rhannol i’r nifer ohonom a dreuliodd fisoedd y Gwanwyn a’r Haf yn mwynhau ein cefn gwlad lleol oherwydd y cyfyngiadau symud a oedd ar waith o ganlyniad i bandemig COVID-19 – ac wrth i ni gychwyn ar flwyddyn arall lle mae’n debygol y byddwn yn aros yma yng Nghymru ar gyfer ein gwyliau, mae’r Tasglu yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn modd diogel, gan sicrhau ein bod yn diogelu’r cefn gwlad, y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd gwerthfawr rydym oll mor falch i’w cael ar y stepen drws.

Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw, “Rwy’n credu ei bod yn drawiadol dros ben ein bod yn lansio ein hymgyrch ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni wrth i ni apelio at ein natur wladgarol, gan erfyn ar bawb i gydweithio i ddiogelu’r glaswelltir a’r ardaloedd cefn gwlad yr ydym i gyd mor ffodus i’w cael ar ein stepen drws.

“Er ein bod yn gwybod bod y tywydd cynnes a brofwyd gennym yn ystod misoedd cynnar yr haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd bach mewn tanau glaswellt ledled Cymru, rydym hefyd yn gwybod bod nifer y tanau a gynnwyd yn ddamweiniol wedi cynyddu yn ogystal. “Er bod damweiniau’n digwydd, gellir eu hosgoi hefyd, a bydd ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar ein haddysgu ni i gyd ynghylch rhai o’r camau bach y gallwn eu cymryd i sicrhau nad ydym yn achosi tân glaswellt trwy ddamwain.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges, er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai eraill yn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o’r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111”.

Mae’r Ymgyrch hefyd yn parhau â’i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth yn ardaloedd yr ucheldir), mae’n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel. Mae’n anghyfreithlon llosgi y tu allan i’r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am #DawnsGlaw 2021 trwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru https://www.tancgc.gov.uk/cym/newyddion/o-dan-sylw/dawnsglaw/ lle gallwch hefyd gael hyd i awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i’w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda’n gilydd gallwn atal tanau glaswellt a diogelu ein cefn gwlad a’n gwlad.

Cofiwch – Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Rhannu
Erthygl flaenorol Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd - 16 Mawrth 2021 Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd – 16 Mawrth 2021
Erthygl nesaf Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English