I ddathlu rhyddhau Deadpool & Wolverine gan Marvel Studios, bydd gosodiad blodau arbennig ar thema Deadpool & Wolverine yn cael ei osod ar Gylchfan Holt yng nghanol Wrecsam.
Bydd cymuned Wrecsam yn gallu mwynhau’r gosodiad blodau Deadpool & Wolverine yn ystod cyfnod Prydain yn ei Blodau rhwng heddiw a dechrau mis Medi.
I nodi rhyddhau’r ffilm – a gosod y blodau ar y gylchfan – aeth Country Living ati i archwilio’r duedd barhaus am arddio anghonfensiynol. Bu’r cylchgrawn yn cyfweld yr arddwraig arbenigol Lucy Willcox, a fu’n sôn am bŵer cadarnhaol y mudiad a’i allu i oleuo mannau trefol a dod â chymunedau at ei gilydd.
Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio Cyngor Wrecsam: “Rwy’n siŵr y bydd y gosodiad blodau yn denu pobl a pheillwyr. Mae’n wych bod y gwaith creadigol hwn yng nghanol Wrecsam.
Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda seren Deadpool Ryan Reynolds – sy’n gyd perchen a CPD Wrecsam, sy’n neud hwn hyd yn fwy arbennig.”
Bydd Deadpool & Wolverine gan Marvel Studios yn cynnig partneriaeth arbennig, eiconig, sinematig a bydd i’w weld mewn sinemâu o 25 Gorffennaf.
Shawn Levy sy’n cyfarwyddo Deadpool & Wolverine ac mae’n serennu Ryan Reynolds, Hugh Jackman, Emma Corrin, Morena Baccarin, Rob Delaney, Leslie Uggams, Karan Soni, a Matthew Macfadyen.
Mae Kevin Feige, Ryan Reynolds, Shawn Levy ac Lauren Shuler Donner yn cynhyrchu gyda Louis D’Esposito, Wendy Jacobson, Mary McLaglen, Josh McLaglen, Rhett Reese, Paul Wernick, George Dewey ac Simon Kinberg fel gweithredwyr cynhyrchu . Mae “Deadpool & Wolverine” wedi cael ei ‘sgwennu gan Ryan Reynolds, Rhett Reese, Paul Wernick, Zeb Wells a Shawn Levy
*Os ydych yn mynd heibio neu’n ymweld â’r arddangosfa, cofiwch am ddefnyddwyr eraill y ffordd a cherddwyr, plîs defnyddiwch fannau croesi dynodedig yn unig os ydych ar droed.