Mae gennym ni leoliadau prentisiaeth newydd gwych yng Nghyngor Wrecsam ar draws amrywiaeth o wasanaethau.
Os ydych chi’n gadael addysg llawn amser neu’n gobeithio cymryd eich cam cyntaf yn eich gyrfa, mae’r prentisiaethau hyn yn lle gwych i ddechrau.
Byddwch yn cael profiad gwaith gwerthfawr, yn datblygu llawer o sgiliau bywyd, yn astudio ar gyfer cymwysterau ac yn ennill cyflog.
Mae cael yr agwedd, y gwerthoedd a’r etheg gwaith cywir yn bwysicach i ni na’ch cymwysterau, felly os ydych chi eisiau gweithio’n galed, gosod y sylfaeni ar gyfer gyrfa dda a gwasanaethu pobl Wrecsam, yna gwnewch gais… rydym eisiau clywed gennych chi!
Mae gennym ddau gynllun i ddewis ohonynt…
Cynllun Hyfforddeiaeth Amgylcheddol
Mae hwn yn gynllun dwy flynedd wedi’i leoli yn ein hadran yr Amgylchedd – sy’n cyfuno gweithio yn y swyddfa gyda gwaith ar y safle.
Byddwn yn eich helpu chi i ddysgu sgiliau newydd a magu eich hyder, gan ddarparu cymysgedd o waith yn y swyddfa ac ar y safle ar draws llawer o feysydd, yn cynnwys gwastraff ac ailgylchu, priffyrdd, peirianneg, cludiant, lleihau carbon, gwaith stryd, mannau agored a goleuadau stryd.
Mae hyfforddeiaeth yn swydd go iawn, lle’r ydych yn ennill cyflog o’r diwrnod cyntaf, a bydd mentor yn cael ei neilltuo i chi i ofalu amdanoch a’ch helpu i gael y mwyaf o bob diwrnod.
Os ydych chi’n cymryd eich cam cyntaf yn eich gyrfa, gall hwn fod yn gyfle gwych, ond peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig…
Ymunodd Niamh â’r cynllun y llynedd a dyma oedd ganddi hi i’w ddweud:
“Dylai pobl wneud cais gan ei fod yn wahanol. Y peth ystrydebol i’w wneud yw mynd i’r coleg ac yna i’r brifysgol, ond rwy’n meddwl bod cael y profiad a’r cyfle hwn yn dda i bobl nad ydynt yn gwybod beth maent eisiau ei wneud pan maent yn hŷn.
“Ac mae’n brofiad braf – yn gyfle i gael profiad gwaith a datblygu sgiliau bywyd.”
Prentisiaeth Gorfforaethol
Mae ein Prentisiaeth Gorfforaethol yn lleoliad dwy flynedd wedi’i gefnogi gan Goleg Cambria, lle’r ydych chi’n cael y cyfle i roi cynnig ar ystod o swyddi gan weithio gydag unigolion profiadol.
Mae gennym gyfleoedd ar draws nifer o adrannau:
- Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar
- Cyllid a TGCh
- Tai
- Economi a Chynllunio
Yn ogystal ag ennill cyflog, byddwch yn cael y dewis i astudio tuag at gymhwyster sy’n gysylltiedig â swydd.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaeth AD ar 01978 292070.
Rydym hefyd yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio mewn llyfrgelloedd lleol, lle gallwch chi ddysgu mwy am y ddau gynllun. Galwch draw i’n gweld ni!
- 8 Ebrill – Llyfrgell Wrecsam – 4-6pm
- 15 Ebrill – Llyfrgell Wrecsam – 4-6pm
- 22 Ebrill – Llyfrgell Gwersyllt – 4-6pm
- 25 Ebrill – Llyfrgell Brynteg – 4.30-6.30pm