Mae Freda yn aelod o ddosbarth Llythrennedd Digidol Dysgu Oedolion yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Acton ac yn ddiweddar mae wedi bod yn defnyddio ei sgiliau digidol newydd.
Er mwyn parhau i weld ffrindiau a theulu mae wedi bod yn defnyddio Facetime i gael sgwrs ac i godi ei chalon.
Dywedodd Freda “Rwyf wedi bod ar Facetime gyda fy ffrind Mary a’i gŵr Geoff. Mae’r ddau yn 94, felly a minnau yn 87 rwyf ychydig ar eu holau! Pa mor glyfar yw technoleg heddiw? Rydym yn gallu siarad am y dyddiau a fu a heddiw roeddem yn sgwrsio am hen ddulliau golchi gyda bagiau glas, startsh ac ati a iau a nionod i swper. Roedd yn dda iawn cael sgwrsio gyda nhw!”
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Diolch i’r dosbarth yn Acton, a thrwy fynychu cwrs technoleg rhyng-genhedlaeth yn y ganolfan gyda myfyrwyr lleol, mae wedi llwyddo i ddysgu nifer o sgiliau digidol yn y blynyddoedd diwethaf. Dechreuodd Freda’r dosbarth fel gweithgaredd cymdeithasol i ddechrau, ond yn awr mae ganddi sawl cymhwyster TG ac yn hyderus yn defnyddio technolegau digidol.
Mae’r sgiliau newydd hyn yn cael eu rhoi ar waith i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu. Hefyd mae’n gallu parhau i fynychu gwasanaethau ei heglwys leol, gan Christchurch Wrecsam, drwy Zoom.
Adnoddau defnyddiol
Os ydych chi’n credu y gallech chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod elwa o gyrsiau digidol ar-lein am ddim, dyma ddolenni defnyddiol:
- https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/covid-19/ – Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio’n galed i ddatblygu cyrsiau hyfforddi cynhwysiant digidol ar-lein.
- https://www.learnmyway.com/ – Learn My Way – gwefan gyda chyrsiau ar-lein am ddim.
- https://www.bt.com/skillsfortomorrow/ – BT Skills for tomorrow yn ceisio datblygu sgiliau pobl i ffynnu yn y byd digidol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19