Dewch draw i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth

International Women's Day

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Wrecsam i anrhydeddu ac amlygu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Eleni rydym yn dathlu’r holl waith caled a wneir gan gwmniau, sefydliadau ac elusennau lleol i gefnogi a grymuso merched yn Wrecsam.

Mae’n cael ei gynnal ddydd Mercher, 8 Mawrth yn Tŷ Pawb rhwng 10am a 3pm.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Ymysg y llawer o bethau a gynigir fydd cyfle i wybod mwy am yr holl welliannau a wnaed i sicrhau bod merched yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel yn Wrecsam, yn arbennig fin nos.

Bydd Freedom Leisure yn cynnal sesiwn Zumba a byddant yn hyrwyddo tocyn 7 diwrnod am ddim i bob Canolfan Hamdden a chofrestru am ddim i ferched.

Bydd dros 20 o stondinau yn cael eu gosod a bydd yna gerddoriaeth a barddoniaeth gan Natasha Borton a bwyd a lluniaeth am ddim ar gael yn y neuadd fwyd.

Dyma restr lawn o bwy fydd yno.

Parallel Security  – Recriwtio merched i fynd i farchnad yr Economi Fin Nos

Y Cynllun Lleoedd Diogel – Codi ymwybyddiaeth ynglŷn â Lleoedd Diogel Cofrestredig yn Wrecsam

Tîm Heddlu Lleol Heddlu Gogledd Cymru – Diogelwch Cymunedol a’r hyn a wnaed i wella diogelwch merched yn Wrecsam, yn enwedig yn ystod oriau’r nos.

Moneypenny – Cyfleoedd recriwtio i ferched.

Coleg Milwrol Paratoadol Wrecsam – Cyfleoedd ar gael i hyfforddi ar gyfer mynd i’r gwasanaethau milwrol.

Cerrig Camu – Gwasanaeth cwnsela proffesiynol i oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol yn eu plentyndod

RASAC – Cyngor a chymorth ar gael gan Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru a fydd hefyd â stondin Iechyd Rhywiol/Cynllunio teulu.

DASU – Uned Diogelwch Cam-drin Domestig

Y Tîm Cydlyniant – Lluniau proffil o grŵp amrywiol o ferched sy’n angerddol ynglŷn â dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan amlygu’r gwaith gwych maent yn ei wneud yn eu cymunedau lleol.

Dechrau’n Deg Cyngor – a chefnogaeth cyn geni/Mamolaeth ar gael yn genedlaethol a lleol.

Pobl Ifanc Egnïol – Heriau sboncio cyflym gyda gwobrau

Freedom Leisure – Sesiwn Zumba a chynnig o docyn 7 diwrnod rhad ac am ddim i’r holl Ganolfannau Hamdden a ffi cofrestru ar gyfer aelodaeth am ddim i ferched.

Strydoedd Mwy Diogel – Cewch wybodaeth am y cynllun Braf Bob Nos sy’n cydnabod arfer da yn y diwydiant trwyddedu a Hafan y Dref, y Ganolfan Les, sy’n agor ar nosweithiau prysur ac yn cynnig lle diogel i’ch cadw rhag unrhyw niwed.

Ysgolion Iach – Fe fydd yna nwyddau mislif rhad ac am ddim ar gael i ferched a gwybodaeth ynglŷn â’r cynllun Ysgolion Iach.

Coleg Cambria – Cewch wybod am yr holl gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn y coleg yn Wrecsam sydd wedi ennill gwobrau.

Adloniant – Cerddoriaeth a Barddoniaeth gan Natasha Borton

Alf Jones

BAWSO – Cefnogaeth ar gael i bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig a effeithir gan gam-drin domestig a dullliau eraill o gam-drin, gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Merched, Priodas dan Orfod, Masnachu mewn Pobl a Phuteindra.

Mother Mountain Productions – Sefydliad Realiti Rhithwir

CBSW – Ymgynghori ac Ymgysylltu

Gyrfa Cymru

Dysgu Oedolion yn y Gymuned – Ymwybyddiaeth o’r Menopos

Clwb Pêl-droed Wrecsam – Tîm Merched

Clwb Pêl-droed Wrecsam – Anabledd

Calon FM – Cyfweliadau a Cherddoriaeth

Wings Wrexham – Ymwybyddiaeth o brosiect urddas mislif a chyfnewid dillad merched

Cadw’n Ddiogel Ar-lein – Darparu gwybodaeth ddiduedd, ffeithiol a hawdd i’w deall am ddiogelwch ar-lein

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]