Dewch draw i Dŷ Pawb i gefnogi artistiaid lleol sy’n byw gyda dementia

Dementia art group

Bydd artistiaid lleol sy’n byw gyda dementia yn arddangos eu gwaith yn Nhŷ Pawb yr wythnos nesaf… yn ogystal â nifer o weithgareddau eraill er mwyn amlygu’r gefnogaeth sydd ar gael.

Mae Celf ar gyfer Dementia Wrecsam a Celfyddydau Anabledd Cymru yn falch o arddangos eu gwaith yn lleoliad cyfarfod canol y ddinas fel rhan o weithgareddau’r wythnos, rhwng 21 Ebrill a 27 Ebrill.

Mae’r amserlen yn cynnwys sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia, lle cewch ddysgu rhagor am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.

Gallwch hefyd gael blas ar Weithgareddau Therapi Hel Atgofion Rhyngweithiol (RITA) a chymryd rhan mewn gweithgaredd gerddorol hyfryd sef Canu ar gyfer yr Ymennydd!
Dywedodd y Cynghorydd Frank Hemmings, sy’n Llysgennad Dementia ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer’s:

“Caiff y grŵp celf ei gefnogi’n dda gan nifer fawr o fyfyrwyr a’u gofalwyr, ac maent yn edrych ymlaen at arddangos rhywfaint o’u gwaith yn Nhŷ Pawb dros y dyddiau nesaf.

“Mewn llawer o achosion, mae celf wedi bod yn therapi gwych i’r sawl sy’n byw gyda dementia a chânt eu synnu’n aml gan ansawdd y gwaith sy’n cael ei greu ganddynt. Mae’n grŵp hyfryd a chyfeillgar ac yn enghraifft wych o sut gall pobl fyw’n dda gyda dementia a chael bywyd cyflawn.

“Dewch draw i Dŷ Pawb i gael gweld y gwaith celf sy’n cael ei arddangos, ac i ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl leol sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.”
I gael gwybod mwy, dilynwch Dementia Friendly Wrexham ar Facebook.

Cynhelir yr Wythnos Deall Dementia ochr yn ochr â lansiad arddangosfa ‘Aildanio’ Celfyddydau Anabledd Cymru yn Oriel 1, Tŷ Pawb.

Ariennir yr arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n cynnwys 26 darn o waith gan artistiaid anabl o Gymru, a ddewiswyd o dros 100 ymateb creadigol i ennyd ‘Aildanio’.

Bydd yr arddangosfa yn teithio ar draws Cymru rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Medi 2023.

Dyma gyfle hyfryd i brofi gwaith celf gweledol blaengar a phryfoclyd gan rai o artistiaid gorau Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Tŷ Pawb.

Aildanio: Arddangosfa Gwobr Gelf 2022-23