Mae rhandiroedd Erddig yng Nghae Thomas yn cymryd rhan yng Nghynllun Gerddi Cenedlaethol eleni i godi arian ar gyfer elusennau.
Byddant yn agor eu drysau i’r cyhoedd rhwng 2pm a 5pm ddydd Sul, 4 Awst i godi arian at achos da. Pris mynediad fydd £3 i oedolion a gall plant fynd mewn yn rhad ac am ddim.
Bydd lluniaeth ar gael yn ogystal â mynediad i gadeiriau olwyn felly galwch draw i ddangos eich cefnogaeth iddynt.
“Ynglŷn â’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol” (ail-grewyd gyda’u caniatâd caredig)
“Mae’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol yn rhoi mynediad unigryw i ymwelwyr i dros 3,500 o erddi preifat eithriadol yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n codi symiau mawr o arian ar gyfer elusennau nyrsio ac iechyd trwy dâl mynediad, paneidiau o de a theisennau.
Diolch i haelioni perchnogion y gerddi, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, rydym wedi rhoi dros £55 miliwn i elusennau nyrsio ac iechyd, a llwyddom i roi’r swm blynyddol uchaf hyd yma yn 2018, sef £3.1 miliwn. Cawsom ein sefydlu yn 1927 i gefnogi nyrsys ardal, ac erbyn hyn rydym yn codi arian ar gyfer nyrsio yn y DU ac mae’r elusennau sydd wedi elwa yn cynnwys Macmillan Cancer Support, Marie Curie, Hospice UK a The Queen’s Nursing Institute.
Nid agor gerddi hardd ar gyfer elusennau yn unig y mae’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol yn ei wneud – rydym ni’n angerddol ynghylch manteision corfforol ac iechyd meddwl gerddi hefyd. Rydym ni’n ariannu prosiectau sydd yn hyrwyddo gerddi a garddio fel therapi, ac yn 2017 fe wnaethom lansio ein Wythnos Gerddi ac Iechyd blynyddol i godi ymwybyddiaeth am y pwnc”.
Gallwch ddysgu mwy am y Cynllun Gerddi Cenedlaethol yn www.ngs.org.uk
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN