Mae digwyddiad ardderchog wedi’i gynllunio ar gyfer y teulu cyfan gan Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd yn mynd â chi yn ôl mewn amser yn ei Strafagansa Fictoraidd ar 22 Awst.
Bydd blaengwrt yr Amgueddfa yn fwrlwm o weithgareddau ac adloniant sy’n dyddio’n ôl dros ganrif.
Bydd cyfle i chi weld sut oedd menyn a chanhwyllau’n cael eu gwneud – cofiwch nad oedd trydan ar ddechrau Oes Fictoria felly roedd canhwyllau yr un mor gyffredin â bylbiau golau heddiw – bydd pobl yn jyglo, cerdded ar stiltiau a mynd ar gefn beiciau peni-ffardding a bydd gemau traddodiadol yn cael eu chwarae a fydd yn adlewyrchu adloniant Oes Fictoria.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Cewch eich atgoffa o ‘Oliver’ gan Charles Dickens yno hefyd wrth i werthwyr blodau gerdded o gwmpas a bydd gweithdai’n cael eu cynnal i ddangos i chi sut oeddent yn gwneud pethau yn y dyddiau hynny!
Bydd hufen ia, lluniaeth a phecynnau cinio plant ar gael yng nghaffi’r Amgueddfa.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac ymlaen rhwng 11am a 4pm ar 22 Awst.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN