Fe fydd cofrestrwyr ar draws y wlad yn cael eu dathlu ar Orffennaf 1 wrth i Ddiwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr 2022 gael ei gynnal am yr eildro.
Nid yw’r Gwasanaeth Cofrestru o reidrwydd yn adran yr ydym yn meddwl amdani yn aml, ond pan rydym ni eu hangen maent yn hanfodol, ac maent gyda ni i gyd ar yr adegau gorau a gwaethaf.
Maent yn cofrestru’r holl enedigaethau a marwolaethau ar gyfer Wrecsam yn ogystal â chofrestru mewn priodasau. Fel y gallwch ddychmygu, mae gan gofrestrwyr Wrecsam lawer o straeon i’w hadrodd! Wrth ymdrin ag elfennau cyfreithiol seremoni briodas mae yna broblemau’n ymwneud â’r gwisgoedd yn aml gan gynnwys colli botymau, blodau, feliau, tynnu minlliw o siwt y priodfab cyn eu bod hyd yn oed wedi priodi – nawr fe fyddai hynny’n sgwrs anodd i’w gael gyda’r briodferch!
Ond mae cofrestrwyr hefyd yna i’n helpu ni drwy amseroedd anodd iawn. Wrth siarad am gofrestru marwolaethau, dywedodd Susan Lloyd, cofrestrydd arolygol/arweinydd tîm y gwasanaethau cofrestru: “Rydym yn rhyfeddu’n gyson tuag at y cryfder mae rhieni’n ei ddangos wrth gofrestru colli plentyn, p’run ai yw yn blentyn a oedd yn farw ar yr enedigaeth, a fu farw pan oedd newydd ei eni neu a fu farw’n ddiweddarach mewn bywyd (waeth beth yw ei oed), y rhan hwn o’r gwasanaeth sy’n ein cadw’n wylaidd ac yn ein gwneud yn falch o’r hyn rydym yn ei wneud. Er eu bod yn rhan fach o’u taith, mae’r straeon hyn yn werthfawr, yn aros gyda ni ac yn effeithio arnom mewn ffyrdd na fydd rhai efallai yn ei sylweddoli neu’n ei ddeall.
Ond mae yna ychydig o hwyl i’w gael ar yr adegau anodd hyn, fel y teuluoedd sy’n dod i mewn ac yn dweud straeon doniol am y rhai annwyl y maent wedi eu colli – cyfaddefodd un teulu eu bod yn mynd â choes ffug eu perthynas i’r angladd yn gwybod y byddai wedi gwneud iddynt chwerthin.
Wrth siarad am y gwasanaeth yn gyffredinol, dywedodd Susan: “Fe fydd pawb ar ryw adeg yn eu bywyd angen gwasanaethau’r tîm cofrestru, p’run ai ar gyfer cofrestru genedigaeth, marwolaeth, marw-enedigaeth, rhoi hysbysiad o briodas, cymryd rhan yn eu priodas neu seremoni dinasyddiaeth neu hyd yn oed os mai dim ond copi o dystysgrif maent ei angen. Rydw i a 5 aelod arall y tîm, Lois, Paul, Amelia, Joanne a Victoria yn cefnogi ein hardal sef Wrecsam. Mae ein gwasanaeth yn fach ond yn gryf a chaiff ei anghofio’n aml ym mywydau dyddiol ein cymunedau a’n cydweithwyr ond fel cofrestrwyr, rydym yno i’ch arwain, gwrando arnoch, chwerthin gyda chi a dangos empathi a hynny yn eich cyfnodau hapusaf ac weithiau gwaethaf. Roedd Covid yn anodd i bawb, ond fe aethom ati i barhau i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb, gan addasu’n gyflym i sicrhau fod gan y gymuned ni i’w harwain o hyd. Mae’n wych ein bod yn gallu treulio amser yn myfyrio ar yr hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd i eraill: dyma ein gwaith ni, ond rydym yn falch o’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn gwneud cyfraniad i gymuned Wrecsam. Y gobaith yw y bydd Diwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr yn rhoi cipolwg ar hyn.”
Fe fydd Diwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr 2022, diwrnod sy’n ddigwyddiad blynyddol, yn llenwi’r cyfryngau cymdeithasol, gan gyflwyno preswylwyr Wrecsam i’r cofrestrwyr a hefyd rhoi cipolwg ar y swydd.
Cadwch lygad ar Facebook @cyngorwrecsam a Twitter @cbswrecsam ar Orffennaf 1, er mwyn cael gwybod mwy.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR