Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i ni ddathlu ein cofrestrwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewch i ni ddathlu ein cofrestrwyr
Pobl a lleY cyngor

Dewch i ni ddathlu ein cofrestrwyr

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 28, 2022 10:33 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Registrars
RHANNU

Fe fydd cofrestrwyr ar draws y wlad yn cael eu dathlu ar Orffennaf 1 wrth i Ddiwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr 2022 gael ei gynnal am yr eildro.

Nid yw’r Gwasanaeth Cofrestru o reidrwydd yn adran yr ydym yn meddwl amdani yn aml, ond pan rydym ni eu hangen maent yn hanfodol, ac maent gyda ni i gyd ar yr adegau gorau a gwaethaf.

Maent yn cofrestru’r holl enedigaethau a marwolaethau ar gyfer Wrecsam yn ogystal â chofrestru mewn priodasau.  Fel y gallwch ddychmygu, mae gan gofrestrwyr Wrecsam lawer o straeon i’w hadrodd! Wrth ymdrin ag elfennau cyfreithiol seremoni briodas mae yna broblemau’n ymwneud â’r gwisgoedd yn aml gan gynnwys colli botymau, blodau, feliau, tynnu minlliw o siwt y priodfab cyn eu bod hyd yn oed wedi priodi  – nawr fe fyddai hynny’n sgwrs anodd i’w gael gyda’r briodferch!

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

Ond mae cofrestrwyr hefyd yna i’n helpu ni drwy amseroedd anodd iawn. Wrth siarad am gofrestru marwolaethau, dywedodd Susan Lloyd, cofrestrydd arolygol/arweinydd tîm y gwasanaethau cofrestru: “Rydym yn rhyfeddu’n gyson tuag at y cryfder mae rhieni’n ei ddangos wrth gofrestru colli plentyn, p’run ai yw yn blentyn a oedd yn farw ar yr enedigaeth, a fu farw pan oedd newydd ei eni neu a fu farw’n ddiweddarach mewn bywyd (waeth beth yw ei oed), y rhan hwn o’r gwasanaeth sy’n ein cadw’n wylaidd ac yn ein gwneud yn falch o’r hyn rydym yn ei wneud. Er eu bod yn rhan fach o’u taith, mae’r straeon hyn yn werthfawr, yn aros gyda ni ac yn effeithio arnom mewn ffyrdd na fydd rhai efallai yn ei sylweddoli neu’n ei ddeall.

Ond mae yna ychydig o hwyl i’w gael ar yr adegau anodd hyn, fel y teuluoedd sy’n dod i mewn ac yn dweud straeon doniol am y rhai annwyl y maent wedi eu colli – cyfaddefodd un teulu eu bod yn mynd â choes ffug eu perthynas i’r angladd yn gwybod y byddai wedi gwneud iddynt chwerthin.

Wrth siarad am y gwasanaeth yn gyffredinol, dywedodd Susan: “Fe fydd pawb ar ryw adeg yn eu bywyd angen gwasanaethau’r tîm cofrestru, p’run ai ar gyfer cofrestru genedigaeth, marwolaeth, marw-enedigaeth, rhoi hysbysiad  o briodas, cymryd rhan yn eu priodas neu seremoni dinasyddiaeth neu hyd yn oed os mai dim ond copi o dystysgrif maent ei angen. Rydw i a 5 aelod arall y tîm, Lois, Paul, Amelia, Joanne a Victoria yn cefnogi ein hardal sef Wrecsam.  Mae ein gwasanaeth yn fach ond yn gryf a chaiff ei anghofio’n aml ym mywydau dyddiol ein cymunedau a’n cydweithwyr ond fel cofrestrwyr, rydym yno i’ch arwain, gwrando arnoch, chwerthin gyda chi a dangos empathi a hynny yn eich cyfnodau hapusaf ac weithiau gwaethaf.  Roedd Covid yn anodd i bawb, ond fe aethom ati i barhau i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb, gan addasu’n gyflym i sicrhau fod gan y gymuned ni i’w harwain o hyd.  Mae’n wych ein bod yn gallu treulio amser yn myfyrio ar yr hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd i eraill: dyma ein gwaith ni, ond rydym yn falch o’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn gwneud cyfraniad i gymuned Wrecsam.  Y gobaith yw y bydd Diwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr yn rhoi cipolwg ar hyn.”

Fe fydd Diwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr 2022, diwrnod sy’n ddigwyddiad blynyddol, yn llenwi’r cyfryngau cymdeithasol, gan gyflwyno preswylwyr Wrecsam i’r cofrestrwyr a hefyd rhoi cipolwg ar y swydd.

Cadwch lygad ar Facebook @cyngorwrecsam a Twitter @cbswrecsam ar Orffennaf 1, er mwyn cael gwybod mwy.

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ruabon Station Mynediad i Ddefnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth
Erthygl nesaf Dementia Taith Elusennol Dementia yn casglu £831.00

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English