Gwyddwn fod ein parciau gwledig a mannau gwyrdd yn bwysig i’n trigolion.
Yn ddiweddar, cawsom newyddion da iawn bod ein parciau wedi cadw eu gwobrau Baner Werdd o 2018, gyda’r anrhydedd yn cael ei roi i Barc Acton, Dyfroedd Alun, Y Parciau, Cefnau Ponciau, Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam.
Cafodd Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd eu gwobrwyo i Maes y Pant, Plas Pentwyn a Mynwent Eglwys y Santes Fair, y Waun.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
I nodi’r achlysur, cynhaliom ddigwyddiad i ddathlu, a chafodd gwirfoddolwyr wahoddiad i chwifio’r Faner Werdd gyda ni yn un o’n parciau gwledig.
Chwifio’r faner yn Nyfroedd Alun
Fe godom y Faner Werdd ym mharc gwledig Dyfroedd Alun mewn digwyddiad a fynychwyd gan y Cynghorydd Rob Walsh, Maer Wrecsam, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, a’n Prif Weithredwr Ian Bancroft.
Yn y digwyddiad hefyd oedd aelodau o’n tîm parciau, a gwirfoddolwyr o’r amryw o grwpiau Cyfeillion sy’n parhau i gefnogi ein parciau gyda’u hymdrechion a’u hymrwymiad.
Cofiwch am ein digwyddiadau yn y parciau’r haf hwn!
Wrth i wyliau’r haf barhau, peidiwch â cholli rhai o’n digwyddiadau gwych sydd ymlaen yn ein parciau gwledig a mannau gwyrdd.
Mae digonedd yn digwydd trwy gydol yr haf, gan gynnwys:
- Diwrnod glanhau cymunedol ym Mharc Acton, o 10am tan hanner dydd, ddydd Mawrth, 13 Awst.
- Taith dractor a chwis anifeiliaid y fferm ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr o 1.30pm tan 3.30pm ddydd Iau, 15 Awst.
- Helfa drysor i’r teulu ym Mharc Acton, o 1.30pm tan 3.30pm ddydd Llun, 20 Awst.
- Cyfeiriannu i’r teulu o 1.30pm tan 3.30pm ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, ddydd Mercher, 21 Awst.
- Diwrnod o wneud drymiau a siglwyr yn Nhŷ Mawr o 1.30pm tan 3.30pm ddydd Iau, 22 Awst…
… a llawer mwy!
Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill sydd ar y gweill ar draws Wrecsam?
Cymerwch gipolwg ar y canllaw digwyddiadau gan ein tîm Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION