Mae ‘na ddigwyddiad cŵl yn digwydd yn Amgueddfa Wrecsam ddydd Iau, 14 Rhagfyr.
Bydd Simon O’Rourke, cerfiwr pren poblogaidd, yn creu cerflun iâ yng nghwrt blaen yr Amgueddfa.
Wedi’i noddi gan Wrexham Lager, bydd yn ddigwyddiad hwyliog dros ben gyda gwobrau gwych i’w hennill hefyd.
Dyma gyfle i ymlacio a mwynhau eich hun. Bydd bwyd ar gael o gaffi’r Amgueddfa, cewch fynd i weld beth sydd ar gael yn y siop a phrofi bwyd lleol blasus Mrs Picklepot, Sabor Damor, Veggie Fayre Brownies a mwy.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Bydd y cerfio rhew yn digwydd yn ‘fyw’ ac os gallwch ddyfalu beth fydd y cerflun terfynol cyn i Simon ei orffen, byddwch yn cael bar o siocled blasus am ddim.
Meddai Simon: “Mae’n beth cyffrous iawn i mi gael gwneud cerflun rhew o flaen cynulleidfa yn Wrecsam – rhywbeth sydd erioed wedi digwydd o’r blaen yn y dref.”
Dim ond £2.50 yw tocynnau i oedolion neu £5 i deulu (2 oedolyn a hyd at 3 o blant) ac maent ar gael o’r Amgueddfa neu ar lein yn www.thisiswrexham.co.uk. Bydd cyfle hefyd i ennill taith am ddim o amgylch bragdy Wrexham Lager a 12 potel o lager – un ar gyfer 12 dydd y Nadolig.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.