Bob blwyddyn, mae ein Ceidwaid yn draenio’r pwll dŵr mawr ym Mharc Stryt Las yn Johnstown.
Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn glanhau gwely’r llyn yn iawn a symud y pysgod sydd wedi’u rhwydo gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a’u rhoi mewn pwll dŵr neu lyn arall sydd angen eu stocio. Caiff pysgod eu symud er mwyn eu hatal rhag bwyta’r Madfallod Dŵr Cribog prin gwarchodedig sy’n byw ar y safle.
Mae’r sbwriel yn y llyn yn hyll ac yn aml yn beryglus i’r adar niferus sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las. Dros y blynyddoedd rydym ni wedi tynnu arwyddion traffig, beiciau, miloedd o ganiau a photeli a’r trolïau siopa hynod boblogaidd o’r mwd.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae Stryt Las yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Stryt Las yn Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig, a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac rydym yn ffodus iawn o gael ardal fel hyn ar stepen ein drws.
“Mae’r ceidwaid yn gwneud gwaith gwych wrth ofalu am yr ardal a bydd ymwelwyr rheolaidd â’r parc wedi arfer â’r digwyddiad glanhau blynyddol hwn.”
Tra bydd y pwll dŵr yn cael ei glirio, mae’r hwyaid a’r elyrch sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las yn rhydd i hedfan i byllau eraill, fel y maen nhw’n ei wneud yn aml, a dychwelyd yno’n nes ymlaen.
Pan fydd y pysgod wedi’u dal a’r sbwriel wedi’i glirio, caiff y llyn ei adael i ail-lenwi’n naturiol dros yr wythnosau nesaf.
Mae’r ceidwad yn gofyn i ymwelwyr beidio â bwydo’r hwyaid. Mae bwydo’r hwyaid a’r elyrch yn annog yr adar i fod yn llai ofnus o bobl, ac mae hynny’n eu gwneud yn fwy agored i niwed, yn enwedig gan gŵn – problem sy’n codi’n aml tra mae’r llyn yn cael ei ddraenio.
Mae bwydo’r hwyaid yn annog llygod mawr hefyd!
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL