Ddydd Mercher 28 Mehefin, cynhaliwyd digwyddiad yn Tŷ Pawb i ddathlu gwaith a llwyddiannau lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg ac ymarferwyr ar hyd a lled Wrecsam.
Daeth tua 100 o wahoddedigion i’r digwyddiad, a diolchodd y Dirprwy Faer, Beryl Blackmore, iddynt yn ffurfiol am eu gwaith yn darparu cynllun gofal plant Dechrau’n Deg.
Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu gan Dîm Dechrau’n Deg Wrecsam. Mae Dechrau’n Deg Wrecsam yn rhaglen wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru i blant o 0 oed hyd at eu pen-blwydd yn 4 oed, ynghyd â’u rhieni/gofalwyr, sy’n byw mewn ardaloedd penodol o Wrecsam.
Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol. Caiff rhieni/gofalwyr gefnogaeth i’w helpu i ddarparu’r amgylchedd mwyaf cadarnhaol ar gyfer lles eu plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar.
Mae cynllun gofal plant a ariennir Dechrau’n Deg yn ddiweddar wedi ei ymestyn i gyrraedd mwy o blant ac mae disgwyl iddo ymestyn ymhellach yn y dyfodol, i sicrhau y gall yr holl blant yn Wrecsam gael 2.5 awr o ofal plant wedi ei ariannu bob dydd.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa luniau dros dro yn dangos plant yn chwarae ar hyd a lled Wrecsam.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, y Cynghorydd Phil Wynn: “Hoffwn ddiolch unwaith eto i’r rhai hynny wnaeth fynychu, yn ogystal â’r rhai hynny nad oeddent yn gallu mynychu, am eu gwaith caled parhaus i helpu i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant ifanc Wrecsam er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.”
Dywedodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Beryl Blackmore: “Ar ôl gweithio yn y sector gofal plant am 60 mlynedd (a dim ond wedi ymddeol fis Awst), rwy’n gwybod yn uniongyrchol pa mor arbennig yw gweithwyr yn y sector gofal plant. “Mae’r gwasanaeth Dechrau’n Deg yn hynod o werthfawr i rieni, gofalwyr a’i ddefnyddwyr, ac felly mae’n wych i allu diolch i’r holl weithwyr proffesiynol sy’n hwyluso’r gwasanaeth hwn am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”
Cewch fwy o wybodaeth am waith Dechrau’n Deg yma: Dechrau’n Deg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam