Disgwylir i ddigwyddiad goleuo adeileddau eiconig ar hyd coridor un milltir ar ddeg safle Treftadaeth y Byd Dyffryn Dyfrdwy ger Llangollen (gogledd-ddwyrain Cymru) ddenu miloedd o ymwelwyr i’r ardal y mis hwn.
Mae’r digwyddiad ymlaen tan 27 Hydref ac mae’n dathlu 10 mlynedd ers i Draphont Ddŵr hynod Thomas Telford, sef Pontcysyllte ym Masn Trefor, ennill Statws Treftadaeth y Byd mawreddog UNESCO yn 2009.
Bydd y digwyddiad ymlaen ar yr un pryd â Chynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Treftadaeth y Byd y DU yn Llangollen, a gynhelir ar 7-8 Hydref o dan y teitl ‘Gwneud y Gorau o Dreftadaeth y Byd’.
Mae pob safle yn unigryw ac mae gan bob un naill ai radd, statws heneb gofrestredig neu’r ddau a byddant wedi’u goleuo gan gwmni goleuadau arbenigol Enlightened o Fryste am ddwy awr bob nos o 7.30pm tan 9.30pm.
Mae’r safleoedd a fydd yn cael eu goleuo fel a ganlyn:
- Traphont Ddŵr, Y Waun (Heneb Gofrestredig Gradd II)
- Traphont, Y Waun (Gradd II)
- Blaen Twnel Y Waun, Basn Camlas Y Waun (Heneb Gofrestredig Gradd II)
- Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Trefor (Heneb Gofrestredig Gradd I)
- Castell Dinas Bran, Llangollen (Heneb Gofrestredig)
- Rhaeadr Y Bedol, Llangollen (Gradd II)
Mae’r trefnwyr yn credu y bydd y digwyddiad mawreddog hwn, sy’n defnyddio’r adeiledd 126 troedfedd o uchder fel canolbwynt i’r dathliadau, yn dod yn fyw ar ôl iddi dywyllu ac yn annog trigolion lleol a thwristiaid i archwilio’r chwe adeiledd ar hyd Camlas Llangollen o Langollen i’r Waun, yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bwriad y digwyddiad yw ymestyn hyd y tymor twristiaeth yn 2019 er mwyn rhoi hwb i economi lleol yr ardal.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect cyffrous hwn sy’n ffordd ardderchog o ddathlu deng mlynedd ers i Draphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ddod yn Safle Treftadaeth Y Byd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth a sut y gall syniadau arloesol fel hyn ein helpu i wneud y gorau o’n Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Dywedodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam Terry Evans, Aelod Arweiniol Gweithredol ac aelod o’r Bwrdd Statws Treftadaeth y Byd: “Rwy’n edrych ymlaen at weld yr adeileddau wedi’u goleuo, gan dynnu sylw pellach at y ffaith bod Safle Treftadaeth Y Byd yn goridor 11 milltir o hyd ac annog pobl i ymweld â mwy ohono. Mae’n wych y bydd y digwyddiad yn para tair wythnos gan roi cyfle i fwy o bobl ymweld â’r ardal a’i weld.”
Dywedodd Adnan Saif, cyfarwyddwr rhanbarthol Glandŵr Cymru: “Mae Camlas Llangollen yn ddyfrffordd brydferth ac yn lle hyfryd i ymweld ag o trwy gydol y flwyddyn. Mae ymchwil yn dangos bod treulio amser wrth ymyl dŵr yn eich gwneud yn hapusach ac yn iachach a bydd y digwyddiad goleuo hwn yn gyfle i ymwelwyr weld y gamlas mewn goleuni gwahanol gan helpu i ddathlu deng mlynedd ers iddi ddod yn Safle Treftadaeth Y Byd.”
Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gyllid gan Croeso Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chaniatâd gan dirfeddianwyr preifat a Network Rail hefyd sydd wedi rhoi caniatâd i Draphont y Waun gael ei goleuo.
Gallwch dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau arbennig Traphont Ddŵr Pontcysyllte ar ei thudalen Facebook bwrpasol neu ar Twitter neu Instagram.
Rydym wedi cael ein gorfodi i wneud hyd yn oed mwy o doriadau. Ond cyn i ni wneud unrhyw beth, hoffem glywed eich barn chi.
DWEUD EICH DWEUD