DIGWYDDIAD NEWYDD SBON
Mae digwyddiad newydd sbon yn dod i Wrecsam yr haf hwn i gefnogi Tŷ’r Eos.
Ar 29 Gorffennaf bydd Motorfest yn dod i fferm Penyllan, Ffordd Wrecsam, Marchwiail.
Bydd mynediad am ddim i’r digwyddiad a bydd ar agor rhwng 10am – 4pm (gwerthfawrogir unrhyw roddion ariannol yn fawr).
BETH I’W DDISGWYL
Mae’r digwyddiad yn berffaith ar gyfer teuluoedd ac wedi ei anelu at bobl sydd wrth eu boddau â cheir a bydd nifer o arddangosfeydd ceir, arena ar gyfer sioeau ac arddangosfeydd, ffair, stondinau ac ardal ar gyfer gwerthwyr bwyd a diod.
Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur – gwybodaeth bellach yn cael ei gyhoeddi yn fuan!!
CODI ARIAN HANFODOL
Bydd arian sy’n cael ei godi yn mynd yn uniongyrchol at ofalu a chefnogi cleifion gyda salwch sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd ledled Wrecsam.
Mae’r achlysur yn gweld staff digwyddiadau Cyngor Wrecsam yn ymuno â Thŷ’r Eos i gynnal digwyddiad, gan godi arian hanfodol ar gyfer yr hosbis.
Meddai Elise Jackson, Rheolwr Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd ar gyfer Tŷ’r Eos: “Rydym wrth ein boddau fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi’r digwyddiad hwn. Mae ymrwymiad y cyngor yn ein galluogi i godi hyd yn oed mwy o arian at y gwaith hanfodol y mae Tŷ’r Eos yn ei wneud.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Mae Tŷ’r Eos yn elusen wych yn Wrecsam sy’n darparu cefnogaeth hanfodol i’r rheiny sydd ei angen yn ystod amseroedd anodd. Rwy’n gobeithio bod y digwyddiad yn codi digonedd o arian i’w helpu nhw barhau i gynnig eu gwasanaeth amhrisiadwy. Heb os mae yna botensial i ddigwyddiad Motorfest fod yn ychwanegiad blynyddol i galendr llawn digwyddiadau Wrecsam, ac y gall ddatblygu ar ei flwyddyn gyntaf i’w wneud yn un o’r digwyddiadau moduro gorau yn yr ardal.”