Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cefnogaeth i ofalwyr ifanc yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cefnogaeth i ofalwyr ifanc yn Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cefnogaeth i ofalwyr ifanc yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: June 9, 2023 11:36 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Hands
RHANNU

Mae Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (WCD Young Carers) yn elusen sy’n cefnogi pobl ifanc dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’u teulu sydd â chyflwr meddygol, anabledd, problem iechyd meddwl neu sy’n byw gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau neu alcohol.

Mae faint mae gofalwr ifanc yn ei wneud i helpu yn gallu amrywio ac efallai na fydd yn digwydd bob dydd, ond pan mae’n digwydd, mae’n gallu bod yn drwm, yn enwedig pan mae cymaint o bethau eraill i’w gwneud.

Nid oes rhaid i ofalwyr ifanc ei wynebu ar eu pen eu hunain.

Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.

Mae eu tîm o staff a gwirfoddolwyr yn hollol frwdfrydig am ddarparu profiadau chwarae a chyfleoedd eraill am seibiant i ofalwyr ifanc ac rydyn ni’n eu hannog nhw i ddatblygu eu cryfderau fel eu bod nhw’n gallu byw’r bywyd maent ei eisiau.

Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Pam bod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn syniad da? Pam bod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn syniad da?
Erthygl nesaf Digwyddiad ‘Motorfest’ Tŷ'r Eos Digwyddiad ‘Motorfest’ Tŷ’r Eos

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026
van
Angen Crefftwyr Medrus – Ymunwch â Thîm Atgyweirio Tai Wrecsam!
Arall
November 12, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Pobl a lleDigwyddiadau

Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun

November 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English