Dyfroedd Alun

Peidiwch ag anghofio fod y digwyddiad plannu coed nesaf yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 18 Mawrth yn Llwyn Stockwell rhwng 10am a 3pm.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad cynnes, esgidiau glaw a dewch â menyg. Mae plannu coed yn weithgaredd y gall pawb o bob oed gymryd rhan ynddo, felly dewch draw ar gyfer sesiwn llawn hwyl i’r teulu yn plannu coed ar gyfer yfory mwy gwyrdd.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Coed Cadw a Llais y Goedwig i blannu coed ar draws y sir yr Hydref a’r Gaeaf hwn.

Mae’n rhan o ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, cynllun coeden am ddim a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a anelwyd at ddosbarthu coeden am ddim i bob aelwyd yng Nghymru.   Mae’r cam hwn (Tach 2022 – Mawrth 2023) yn anelu i roi 295,000 o goed am ddim. Mae’r coed hyn yn cael eu dosbarthu o 50 canolbwynt cymunedol ar draws Cymru.

Roedd y dewis Plannwch Goeden i Mi (PAT4Me) o Fy Nghoeden, Ein Coedwig, sy’n cael ei hwyluso a’i gefnogi gan Lais y Goedwig yn galluogi aelwydydd sydd heb fynediad i’w mannau plannu coed eu hunain neu nad ydynt yn dymuno hawlio eu coeden i gael plannu coeden ar eu rhan.

Rydym ni wedi ymrwymo i amddiffyn coed a choetiroedd ledled y sir yn rhan o’r Strategaeth Coed a Choetir. Mewn partneriaeth gyda Chronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw rydym yn anelu i gynyddu gorchudd canopi ledled y sir.

Mae’n hanfodol nawr yn fwy nag erioed i ddefnyddio ein mannau gwyrdd agored i ymateb i natur ac argyfwng hinsawdd a wynebir gennym. Bydd prosiectau plannu coed fel hyn yn datblygu cysylltedd rhwng cynefinoedd presennol, gwella gwytnwch ecosystem yn ogystal â chreu mannau croesawgar a phleserus i ymweld â nhw.

Rydym bob amser yn chwilio am ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gyfrannu at ein cynlluniau plannu coed, felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch gysylltu drwy woodlandpledge@wrexham.gov.uk

Gallwch chi hefyd ddangos eich cefnogaeth ar gyfer amddiffyn coed a choetiroedd yn Wrecsam trwy Addewid Coetir Wrecsam ar ein gwefan Addewid Coetir Wrecsam Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thrwy Facebook a twitter.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD