No Ifs No Butts

Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn broblem fawr yng Nghymru, ac yma yn Wrecsam rydym yn cefnogi ymgyrch genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru, “Dim esgus. Byth.”, sydd â’r nod o roi diwedd ar hyn.

Mae gwerthu tybaco yn anghyfreithlon yn rhoi sigaréts yn nwylo plant yn ogystal ag yn niweidio iechyd y cyhoedd, busnesau lleol a gall gyfrannu at droseddau cyfundrefnol difrifol.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Nod yr ymgyrch yw annog pobl i gamu ymlaen a gadael i Safonau Masnach wneud eu gwaith i gael gwared â thybaco anghyfreithlon o’n cymunedau, a’u cadw oddi wrth ein plant, ein teulu a’n ffrindiau.

Dim esgus. Byth. Helpwch ni i yrru’r fasnach hon allan o Wrecsam

Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae ysmygu’n niweidio iechyd yn ddifrifol a dydi masnachwyr tybaco anghyfreithlon ddim yn meddwl ddwywaith am werthu i blant.

“Os gwyddoch chi am rywun sy’n gwerthu’r cynnyrch hwn, rhowch wybod am y peth drwy ddilyn y ddolen isod a helpu gyrru’r fasnach hon allan o Wrecsam.”

Beth yw tybaco anghyfreithlon?

Mae yna nifer o wahanol fathau o dybaco anghyfreithlon ac mae’n cyfeirio at sigaréts a phecynnau tybaco rholio â llaw anghyfreithlon. Y mathau mwyaf cyffredin yw:

  • Tybaco go iawn rhad sydd wedi’i smyglo i’r DU heb dalu tollau arno (yn aml, mae’r ysgrifen ar y pecyn mewn iaith dramor a does yna ddim rhybuddion iechyd arno).
  • Cynnyrch ffug sy’n edrych fel brandiau enwog ond sy’n cael eu gwneud yn anghyfreithlon.
  • Sigaréts gwyn rhad (cheap whites) sy’n cael eu masgynhyrchu mewn un wlad a’u smyglo i mewn i wlad arall.
  • Sigaréts sy’n cael eu gwerthu fesul un yn lle mewn pecynnau.
    Mae’n rhestr eithaf maith, ond os nad ydych chi’n siŵr o rywbeth, rhowch wybod amdano.

Mae gwerthwyr anghyfreithlon yn defnyddio nifer o ddulliau o werthu tybaco anghyfreithlon. Y ffyrdd mwyaf cyffredin o werthu yw:

  • mewn siopau
  • mewn cartrefi preifat
  • mewn tafarndai a chlybiau
  • dros y cyfryngau cymdeithasol
  • o gist car
  • ar y stryd

Un arwydd da bod y tybaco yn anghyfreithlon yw’r pecyn. Os nad yw’r ysgrifen ar y pecyn yn Saesneg, os nad yw’r pecyn yn wyrdd plaen ac os nad oes yna rybuddion iechyd arno, mae’n debygol iawn ei fod yn anghyfreithlon. Hefyd, mae prisiau rhad a brandiau anhysbys yn arwyddion go dda.

Gallwch roi gwybod am unrhyw un sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon heb roi’ch enw drwy ddilyn y ddolen hon.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

COFRESTRWCH FI RŴAN