Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaredwch â batris a chaniau nwy mewn modd cyfrifol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwaredwch â batris a chaniau nwy mewn modd cyfrifol
Y cyngor

Gwaredwch â batris a chaniau nwy mewn modd cyfrifol

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 14, 2022 11:46 am
Rhannu
Darllen 4 funud
g
RHANNU

Hoffem gyhoeddi nodyn atgoffa bwysig i breswylwyr eu bod angen bod yn ofalus iawn a dilyn y canllawiau cywir wrth waredu ag unrhyw eitemau hunan losgadwy fel batris neu ganiau nwy.

Cynnwys
  • Beth ddylwn i’w wneud?
    • Batris
    • Cynwysyddion nwy
    • Barbeciw untro

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Amgylchedd: “Ni ddylid gosod eitemau gwastraff peryglus gan gynnwys batris, caniau nwy, cemegion neu unrhyw ffynhonnell arall o wres, yn eich gwastraff cyffredinol. Gall roi’r eitemau yma yn eich bin achosi tân yn y canolfannau ailgylchu, gan greu sefyllfaoedd peryglus a rhoi nifer o bobl mewn risg.

“Hefyd mae’r effaith difrifol y mae’n ei gael ar yr amgylchedd. Pan fydd y deunydd gwenwynig sydd yn yr eitemau hyn yn cael eu rhyddhau, maent yn niweidiol i’r amgylchedd ac iechyd pobl. Byddwch yn gyfrifol ac ailgylchwch yr eitemau yma, neu os yw’n bosib, eu dychwelyd i’r cyflenwr ble y cawsoch yr eitem.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Beth ddylwn i’w wneud?

Batris

Batris lithiwm sy’n achosi’r nifer fwyaf o danau mewn cyfleusterau gwastraff. Gallwch ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris car!

Ond os mai ond batris arferol y cartref hoffech eu hailgylchu, ac os yw’n fwy hwylus i chi, dylech gael yr opsiwn i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd.

Mae hyn oherwydd, ers Chwefror 2010, mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 paced o 4 o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn y siop…felly mae’n rhaid i’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr ddarparu hyn.

Cynwysyddion nwy

Gyda’r haf yn nesau, bydd llawer ohonoch yn debygol o gael barbiciws yn y misoedd nesaf, felly mae’n bwysig iawn i ystyried y cyngor canlynol…

Gall caniau nwy fod yn beryglus, ac felly ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Os oes gennych un, mae’n well holi’r cwmni ble y gwnaethoch ei brynu, gan y bydd yn bosib iddynt eu hail-lenwi neu ei waredu i chi.

Mae’n bosib ailgylchu poteli nwy llai nad oes modd eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogydd coginio bach) gyda’r plastigion a’r caniau a gaiff eu casglu yn ymyl palmant DIM OND os nad oes hylif neu nwy ynddynt. Os oes unrhyw beth ar ôl ynddynt, byddwch angen mynd â nhw i un o’r tair canolfan ailgylchu.

Barbeciw untro

Gall barbeciwiau untro achosi tân os nad ydynt wedi eu trin yn y ffordd gywir, felly byddwch yn ofalus wrth eu defnyddio.

Dylid ond gwaredu ar ludw poeth yn y bin gwastraff cyffredinol wedi iddynt oeri yn iawn. Mae posib gwneud hyn drwy unai ddisgwyl 48 awr, neu eu socian mewn dŵr oer nes i’r tymheredd ostwng.

Mae’n llawer gwell osgoi barbeciwiau untro os yn bosib. Fel nifer o gynnyrch defnydd untro, maent yn gyfleus, ond y blaned sy’n talu’r pris. Nid yw’n bosib ailgylchu barbeciwiau untro, ac mae cael un aml ddefnydd yn llawer rhatach i’w ddefnyddio yn yr hirdymor.

I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol No Ifs No Butts Dim Esgus. Byth. Sut I Roi Gwybod Am Achosion O Werthu Tybaco Anghyfreithlon
Erthygl nesaf Armed Forces Day Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn Wrecsam 18 Mehefin 10 – 4

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English