Ychydig o amser yn ôl, mi wnaethom ddweud wrthych sut bu i grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria gael eu hysbrydoli i gyflwyno gwasanaeth i weddill yr ysgol, i siarad am fanteision ailgylchu.
Roedd hyn yn dilyn eu hymweliad â’r Ystafell Addysg yng Nghanolfan Ailgylchu Bryn Lane, lle wnaethant ddysgu am y gwahanol fathau o finiau, beth ellir ei ailgylchu, beth sy’n digwydd i’n cynnyrch ailgylchu, a pham ei bod yn bwysig i beidio â llygru ailgylchu – ymysg pethau eraill.
Yn bresennol hefyd, roedd Graham Evans, Rheolwr Cynnal a Chadw yn Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria – er bod gwell ganddo gael ei alw’n ‘ofalwr’ – roedd wedi cael argraff dda yn dilyn y sesiwn sydd wedi gwella ei wybodaeth am ailgylchu.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych bod pobl yn cael gweld yr Ystafell Addysg a dysgu mwy am ailgylchu. Mae’n boblogaidd iawn ymysg ysgolion, mae ein gweithwyr Strydwedd wedi bod yno yn ddiweddar hefyd i ddysgu mwy. Mae gwybodaeth yn allweddol, a’r dealltwriaeth gwell hyn all ein helpu i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70% erbyn 2025.”
Dyma beth oedd gan Graham i ddweud am ei ymweliad 🙂
“Mae’n rhoi pethau mewn persbectif”
Eglurodd Graham: “Roedd yr ymweliad i Ystafell Addysg yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n credu byddai gofalwyr eraill yn ei weld yn fuddiol hefyd – mae’n rhoi popeth mewn persbectif.
“Rydych yn gweld lle mae popeth yn mynd ac yn dod i ddeall y broses ailgylchu. Mae’n gadael i chi weld pethau nad ydych yn cael gweld, mae’n gwneud synnwyr.”
Mae Catherine Golightly, Swyddog Strategaeth Gwastraff Cyngor Wrecsam yn cynnal y sesiynau sydd yn rhoi profiad ailgylchu rhyngweithiol i ddisgyblion.
Mae ffenestr wylio’n caniatáu i ddisgyblion weld sut mae deunyddiau ailgylchu’n cael eu bwndelu er mwyn mynd â nhw i’w hailgylchu’n gynhyrchion newydd.
Roedd Catherine yn falch bod y plant wedi defnyddio eu mentergarwch eu hunain i fwydo’r wybodaeth hyn yn ôl i weddill eu hysgol.
Dywedodd Catherine: “Mae’n gwneud y gweithdai yn werth yr ymdrech pan allwch weld bod yr unigolion wedi ystyried yr wybodaeth. Mae’n wych eu bod eisiau addysgu’r ysgol gyfan.
“Dylai’r disgyblion fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflwyno.”
Dyma ein fideo byr o wasanaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria ar ailgylchu…
“Mae pawb yn meddwl ei fod yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi…”
Un o’r pethau mae Graham eisiau amlygu hefyd yn dilyn ei ymweliad yw pam ei fod yn bwysig i beidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy yn eich bin gwastraff du.
Dywedodd Graham: “Rhywbeth wnaeth sefyll allan oedd y bin gwastraff du. “Mae pawb yn meddwl ei fod yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi, ond nid ydynt. Mae’n mynd i Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam lle byddant yn ceisio tynnu gymaint o fetel a phlastig ohono ac y gallent.
“Mae angen mynd trwy’r deunyddiau ailgylchu i dynnu deunyddiau sydd wedi’u halogi gan wastraff arall.
“Hoffwn feddwl petai mwy o bobl yn gweld beth rwyf i wedi ei weld, y byddant yn deall beth yw ailgylchu ac yn y pen draw yn ailgylchu mwy.”
Eisiau gwella eich sgiliau ailgylchu?
Rhowch gynnig ar ein cwis plastig isod i weld sut rydych yn ei wneud…
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU