Ymweliad Arglwydd Parkinson
Mewn ‘ychydig o wythnosau byr byddwn yn darganfod pwy fydd yn cael y teitl Dinas Diwylliant y DU 2025.
Mae’r gystadleuaeth rhwng Sir Wrecsam, Bradford, Southampton ac Durham.
Da ni’n gobeithio eich bod wedi gweld ein logo ân frand o gwmpas y sir ynghyd a’n #nod #Wrecsam2025 ar y cyfryngau cymdeithasol.
Da ni ddal angen lleisiau a chymorth ein cymuned i gefnogi’r cais. Siaradwch a’ch ffrindiau, eich teulu, eich cymdogion a’ch cydweithwyr. A rhannwch eich syniadau ar Wrecsam drwy ddefnyddio’r #nod #Wrecsam2025 ar gyfryngau cymdeithasol.
Fel rhan o’r broses cais #Wrecsam2025, heddiw, rydyn ni’n groesawi’r Arglwydd Parkinson o Whitley Bay, Gweinidog dros y Celfyddydau.
Bydd yr Arglwydd Parkinson yn cymryd gorymdaith fer o’r sir fel y gallwn arddangos tameidiau o’n diwylliant a’n treftadaeth. Bydd yr ymweliad yn rhoi siawns i ni hybu’n cais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’n bleser i groesawi’r Arglwydd Parkinson a’r tîm o DCMS. Mae Wrecsam yn lle ardderchog i fyw, gweithio ac ymweld, ac wrth ddod yn Ddinas Diwylliant y DU buasem ni’n gallu datblygu ein cynnig a dyrchafu gyda’n gilydd fel sir.
Bydd DCMS yn rhannu newyddion ar yr ymweliad ar draws ei gyfryngau cymdeithasol.
Twitter: @DCMS
Facebook ac Instagram: /dcmsgovuk
LinkedIN: Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a chwarae.
Mi fyddwn ni’n rhannu lluniau a chynnwys ar twitter CBCW @cbswrecsam yn defnyddio’r #nod #wrecsam2025 #cityofculture2025
Fedrwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein cais a chysylltu i ddarganfod sut i gymryd rhan drwy ymweld a wrecsam2025.com