Ydych chi’n un o Ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU?
Oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am yr hyn a fydd yn digwydd pan ddaw’n bryd i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd?
Darllenwch fwy…
Ddydd Mercher, 27 Mehefin, 7-9pm yn Neuadd Goffa Wrecsam, bydd Europe Direct yn cynnal digwyddiad ar gyfer unrhyw Ddinasyddion yr UE, eu ffrindiau ac aelodau’r teulu, sydd eisiau gwybod mwy ynglŷn â pha gamau sydd angen eu cymryd, darganfod mwy am statws preswylydd sefydlog a holi cwestiynau i gyfreithiwr arbenigol.
Bydd Brexit yn effeithio ar ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU dim ots ers pa mor hir y maent wedi byw yn y DU. Efallai y bydd gan rai dinasyddion hawlen breswylio neu ganiatâd amhenodol i aros felly byddwch yn gallu darganfod beth fydd yr effaith arnoch chi.
Mae’r DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth, 2019 ac yna’n dechrau ar gyfnod pontio, a disgwylir y bydd y cyfnod hwn yn para tan ddiwedd 2020. Yn ystod y cyfnod pontio hwn. Bydd yr holl hawliau sydd gennym ar hyn o bryd yn parhau i fod mewn grym.
Os ydych yn awyddus i ddod, cofrestrwch yma neu ffoniwch Europe Direct Wrecsam ar 01978 292090
Gallech hefyd ffonio’r rhif uchod i gael rhagor o wybodaeth am yr UE a’ch hawliau. Mae Europe Direct yn wasanaeth gwybodaeth am ddim ynglŷn â’r UE wedi eu lleoli yn Llyfrgell Wrecsam.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR