Diolchodd Cyngor Wrecsam i’r preswylwyr a’r sefydliadau am gynorthwyo i lunio Cynllun newydd y Cyngor.
Mae’r cynllun yn amlinellu ein blaenoriaethau lles ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a sut byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i ddarparu’r hyn sy’n bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref sirol.
Y chwe blaenoriaeth lles o fewn ein Cynllun y Cyngor yw:
- Darparu Gwasanaethau Stryd effeithlon a datgarboneiddio ein hamgylchedd
- Datblygu ein heconomi
- Sicrhau bod Wrecsam yn lle teg a diogel
- Gwella addysg a dysgu
- Hybu iechyd a lles (gan ganolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl da)
- Cynnal gweithlu tra medrus a brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau
I gynorthwyo i ddatblygu’r cynllun, gofynnwyd i bobl leol rannu eu safbwyntiau a’u syniadau drwy arolwg ar-lein ac ar bapur, e-byst a sgyrsiau dros y ffôn.
Bu i swyddogion y Cyngor gwrdd wyneb yn wyneb â grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr, ac maent wedi mynychu boreau coffi, dosbarthiadau ymarfer corff, dosbarthiadau celf, clybiau bwyd, grwpiau ffydd a gweithgareddau cymunedol eraill.
Mae’r adborth wedi cyfrannu’n sylweddol er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i ddatblygu’r cynllun.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Roeddem eisiau rhoi cyfle i gymunedau ledled Wrecsam i gyfranogi, a hoffem ddiolch i bawb am gymryd rhan.
“Mae’n bwysig er budd democratiaeth bod pobl leol yn cynorthwyo i lunio penderfyniadau strategol, gan ei fod yn cynorthwyo i sicrhau bod Cynghorau yn canolbwyntio ar y pethau cywir… y pethau sydd wir yn bwysig.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau: “Ynghyd ag ymgynghoriadau ar-lein, bu i ni siarad â chymunedau ar draws y fwrdeistref sirol mewn ystod o leoliadau – o foreau coffi i ddosbarthiadau ymarfer corff.
“Rydym yn gwybod fod gan bobl fywydau prysur, ond mae pob un sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu safbwyntiau wedi cyfrannu at lunio dyfodol Wrecsam.” Mae modd dysgu mwy am sut mae safbwyntiau pobl leol wedi cynorthwyo i lunio Cynllun y Cyngor drwy ddarllen yr adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi ar wefan Eich Llais Wrecsam.