Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diolch am gynorthwyo i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diolch am gynorthwyo i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Diolch am gynorthwyo i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 13, 2024 12:09 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Thank you
RHANNU

Diolchodd Cyngor Wrecsam i’r preswylwyr a’r sefydliadau am gynorthwyo i lunio Cynllun newydd y Cyngor.

Mae’r cynllun yn amlinellu ein blaenoriaethau lles ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a sut byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i ddarparu’r hyn sy’n bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref sirol.

Y chwe blaenoriaeth lles o fewn ein Cynllun y Cyngor yw:

  • Darparu Gwasanaethau Stryd effeithlon a datgarboneiddio ein hamgylchedd
  • Datblygu ein heconomi
  • Sicrhau bod Wrecsam yn lle teg a diogel
  • Gwella addysg a dysgu
  • Hybu iechyd a lles (gan ganolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl da)
  • Cynnal gweithlu tra medrus a brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau

I gynorthwyo i ddatblygu’r cynllun, gofynnwyd i bobl leol rannu eu safbwyntiau a’u syniadau drwy arolwg ar-lein ac ar bapur, e-byst a sgyrsiau dros y ffôn.

Bu i swyddogion y Cyngor gwrdd wyneb yn wyneb â grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr, ac maent wedi mynychu boreau coffi, dosbarthiadau ymarfer corff, dosbarthiadau celf, clybiau bwyd, grwpiau ffydd a gweithgareddau cymunedol eraill.

Mae’r adborth wedi cyfrannu’n sylweddol er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i ddatblygu’r cynllun.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Roeddem eisiau rhoi cyfle i gymunedau ledled Wrecsam i gyfranogi, a hoffem ddiolch i bawb am gymryd rhan.

“Mae’n bwysig er budd democratiaeth bod pobl leol yn cynorthwyo i lunio penderfyniadau strategol, gan ei fod yn cynorthwyo i sicrhau bod Cynghorau yn canolbwyntio ar y pethau cywir… y pethau sydd wir yn bwysig.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau: “Ynghyd ag ymgynghoriadau ar-lein, bu i ni siarad â chymunedau ar draws y fwrdeistref sirol mewn ystod o leoliadau – o foreau coffi i ddosbarthiadau ymarfer corff.

“Rydym yn gwybod fod gan bobl fywydau prysur, ond mae pob un sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu safbwyntiau wedi cyfrannu at lunio dyfodol Wrecsam.” Mae modd dysgu mwy am sut mae safbwyntiau pobl leol wedi cynorthwyo i lunio Cynllun y Cyngor drwy ddarllen yr adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi ar wefan Eich Llais Wrecsam.

Mae angen ID ffotograffig arnoch i bleidleisio mewn rhai etholiadau. Dim ID? Gallwachwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim ar-lien. Dysgwch fwy drwy fynd i yma.

Rhannu
Erthygl flaenorol Tiny Forests Coetiroedd Bach, manteision anferthol i Wrecsam
Erthygl nesaf Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025-Cyfle i fod yn rhan o’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English